Man U 1–1 Abertawe         
                                                               

Rhoddwyd hwb i obeithion Abertawe o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr gyda gêm gyfartal yn erbyn Man U yn Old Trafford brynhawn Sul.

Aeth y tîm cartref ar y blaen gyda chic o’r smotyn hynod ddadleuol ar ddiwedd yr hanner cyntaf cyn i’r Elyrch daro nôl i gipio pwynt haeddiannol gyda chic rydd wych Gylfi Sigurdsson yn yr ail hanner.

Abertawe, heb os, a ddechreuodd orau gan reoli’r meddiant yn chwarter cyntaf y gêm.

Yr ymwelwyr o dde Cymru a gafodd y cyfle cyntaf hefyd a bu bron i David de Gea wneud llanast o’i arbediad o gynnig Fernando Llorente.

Roedd yn rhaid i Lukasz Fabianski fod yn effro yn y pen arall i arbed foli Jesse Lingard o chwe llath wrth i’r tîm cartref ddod fwyfwy i’r gêm wrth i’r hanner fynd yn ei flaen.

Arbedodd Fabianski gynnig Anthony Martial hefyd cyn i Jordan Ayew orfodi arbediad gan de Gea yn y pen arall.

Roedd hi’n ymddangos ei bod hi am aros yn ddi sgôr tan yr egwyl ond daeth digwyddiad dadleuol y gêm yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner.

Taflodd Marcus Rashford ei goes at Fabianski i geisio ennill cic o’r smotyn, llyncodd y dyfarnwr y twyll a sgoriodd Wayne Rooney o ddeuddeg llath.

Gyda gôl o fantais, roedd Man U yn edrych yn fwy cyfforddus ar ddechrau’r ail hanner ac fe ddylai Rooney fod wedi dyblu’r fantais ond anelodd ei ergyd yn erbyn ei gyd chwaraewr, Martial!

Daeth Martial ei hun yn agos hefyd pan wyrodd ei ergyd oddi ar amddiffynnwr ond gwnaeth Fabianski yn dda i adweithio ac arbed gyda’i droed.

Wnaeth yr Elyrch ddim rhoi’r ffidl yn y to serch hynny ac roeddynt yn haeddiannol gyfartal ddeuddeg munud o’r diwedd diolch i gic rydd wych Sigurdsson, y gŵr o Wlad yr Iâ’n crymanu’r bêl i’r gornel uchaf o ugain llath.

Cafodd Llorente gyfle da i’w hennill hi i’r Cymry yn y munudau olaf ond anelodd ei gic wan yn syth at de Gea yn y gôl.

Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe yn safleoedd y gwymp ond dau bwynt yn unig sydd yn eu gwahanu hwy a Hull yn yr ail safle ar bymtheg gyda thair gêm ar ôl.

.

Man U

Tîm: de Gea, Young, Bailly (Darmian 61’), Blind, Shaw (Valencia 9’), Carrick, Herrera, Lingard, Rooney (Mkhitaryan 80’), Martial, Rashford

Gôl: Rooney [c.o.s.] 45+3’

Cardiau Melyn: Martial 18’, Lingard 44’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Kingsley, Ki Sung-yueng (Fer 6’1), Britton (Montero 65’ (Olsson 72’)), Carroll, Ayew, Llorente, Sigurdsson

Gôl: Sigurdsson 79’

Cardiau Melyn: Britton 14’, Fernandez 89’

.

Torf: 75,271