Eastleigh 1–1 Wrecsam     
                                                               

Daeth tymor siomedig Wrecsam yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr i ben gyda gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Eastleigh yn Ten Acres brynhawn Sadwrn.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Jordan White yr ymwelwyr o ogledd Cymru ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Felly yr arhosodd hi tan ddeunaw munud o’r diwedd pan rwydodd Matt Tubbs o groesiad James Constable.

A bu rhaid i’r ddau dîm fodloni ar gôl yr un a phwynt yr un yn y diwedd gan orffen yng nghanol y tabl.

Mae’r Dreigiau yn gorffen yn y trydydd safle ar ddeg wedi tymor siomedig arall

.

Eastleigh

Tîm: Barnes, Cole, Green, Close, Hoyte, Reid (Constable 63’), Odoffin, Matthews, Togwell, Tubbs (Bearwish 76’), McAllister (Wilson 67’)

Gôl: Tubbs 73’

.

Wrecsam

Tîm: Jalal, Allen, Jennings, Carrington, Marx, Shenton, Barry, Evans, Penn (Riley 63’), White, Harry (Massanka 63’)

Gôl: White 47’

Cardiau Melyn: Jennings 74’, Evans 80’

.

Torf: 2,588