Caerdydd 0–2 Newcastle
Sgoriodd Newcastle ddwy waith mewn deg munud wrth drechu Caerdydd yn Stadiwm y Ddinas nos Wener.
Parhau a wnaeth diweddglo siomedig yr Adar Gleision i’r tymor yn y Bencampwriaeth wrth iddynt golli eu gêm gartref olaf.
Wedi hanner cyntaf di sgôr fe newidodd y gêm mewn cyfnod o ddeg munud yn yr ail hanner.
Rhoddodd Christian Atsu yr ymwelwyr ar y blaen gyda chic rydd daclus ddeg munud wedi’r egwyl cyn i Isaac Hayden ddyblu’r fantais gyda chynnig arall o bellter ddeg munud yn ddiweddarach.
Mae’r canlyniad yn cadw gobeithion Newcastle o ennill y Bencampwriaeth yn fyw ac yn gadael Caerdydd yn y trydydd safle ar ddeg gydag un gêm ar ôl.
.
Caerdydd
Tîm: McGregor, Richards, Morrison, Ecuele Manga, Bennett, Halford (Ralls 63’), Hoilett, Gunnarsson, Wittingham (Pilkington 64’), K. Haris (Noone 24’), Zohore
Cerdyn Melyn: Richards
.
Newcastle
Tîm: Elliot, Yedlin, Mbemba, Clark, Dummett, Perez (Sterry 90’), Hayden, Colback (Shelvey 73’), Atsu, Diame, Murphy (Mitrovic 66’)
Goliau: Atsu 55’, Hayden 65’
.
Torf: 23,153