Nia Eleri Johns
Mae’n mynd i fod yn gyfnod o gnoi ewinedd i gefnogwyr yr Elyrch tan ddiwedd y tymor rhwystredig hwn.

Gyda dim ond pedair gêm ar ôl, mae’n debyg y bydd y cyfnod hwnnw’n dechrau ddydd Sul (Ebrill 30) oddi cartref yn Old Trafford yn erbyn Manchester United.

Mae’r gefnogwraig, Nia Eleri Johns, o Gastell Nedd â thocyn tymor, ac mae’n mynd i bob gêm gartref.

“Rwy’i wedi bod yn dilyn y Swans yn gyson ers deng mlynedd,” meddai wrth golwg360. “Fe fyddai’n siom enfawr pe baen ni’n mynd lawr i’r Bencampwriaeth am dri phrif reswm:

– Yn gynta, fe weithion ni mor galed i gael dyrchafiad yn y lle cyntaf. Y clwb yn cael ei achub o dan reolaeth Brian Flynn; sylfeini arbennig yn cael eu gosod gan Roberto Martinez; a’r freuddwyd yn cael ei wireddu gan Brendan Rogers. A thrwy’r cwbwl, y clwb yn llwyddo i gadw ei gymeriad.

– Yn ail, meddai Nia Eleri Johns, “rwy’n teimlo fod y tîm yn ddigon da i gystadlu yn yr Uwch Gynghrair. Mae gyda ni nifer o chwaraewyr o safon uchel fel Fabianski, Mawson, Sigurdsson, Britton a Llorente… heb son am y chwaraewyr llai “ffasiynol” fel Cork,Routledge a Carroll.

– A’r trydydd rheswm yw hyn – os awn ni lawr dw i ddim yn gweld ni’n dod yn ôl. Wrth reswm byddem yn colli rhai o’r prif chwaraewyr a byddai’n anodd denu chwaraewyr o safon i orllewin Cymru heb atynfa’r Uwch Gynghrair.”

Penodi’r rheolwyr anghywir

Apwyntiad “ffôl, di-synnwyr, di-sail” yng nghanol y tymor oedd rhoi swydd rheolwr y clwb i’r Americanwr Bob Bradley, meddai wedyn.

Ond, heb os yr apwyntiad a roddodd Abertawe ar y trywydd anghywir, meddai, oedd y penderfyniad i gynnig cytundeb newydd i Francesco Guidolin.

“Daeth Paul Clement i ganol sefyllfa anodd a dweud y lleiaf ac, er ei fod yn hyfforddwr o safon, ar wahân i gyfnod byr gyda Derby County mae’n ddibrofiad fel rheolwr.

“Ac oherwydd hyn, mae e wedi mynd yn negyddol tu hwnt yn ystod yr wythnosau diwethaf. Roedd yn anodd credu ein bod ni wedi derbyn gêm gyfartal yn erbyn Middlesborough heb roi’r un eilydd ar y cae.

“Anodd esbonio hefyd pam byddai Leon Britton yn chwarae ei gêm gyntaf ers mis Rhagfyr yn erbyn Stoke. Mae angen chwaraewyr o brofiad ar adeg fel hyn a chwaraewyr sy’n gwybod hanes y clwb ag sy’n teimlo perthynas a’r ddinas. Rwy’n sicr i Leon drosglwyddo ychydig o’r angerdd hwnnw i rai o’r chwaraewyr newydd.”

A oes gobaith?

Wrth gwrs bod gobaith o hyd, meddai Nia Eleri Johns.

“Ond rwy’n credu y  bydd raid i ni ennill tair o’r pedair gêm olaf i aros yn yr Uwch Gynghrair. Dim ond gobeithio na fyddwn ni’n edrych yn ôl mewn siom a rhwystredigaeth ar y chwe gêm cyn gêm Stoke lle gawson ni ond un pwynt – a phump o’r timau hynny tua gwaelod y gynghrair.

Y gemau sy’n weddill

Ebrill 30 – Man Utd v Abertawe 

Mai 6 – Abertawe v Everton

Mai 13 – Sunderland v Abertawe 

Mai 21 – Abertawe v West Bromwich Albion