Bydd tîm pêl-droed merched Cymru yn herio Lloegr yng Nghwpan y Byd 2019 yn Ffrainc wrth iddyn nhw ddisgyn i’r un grŵp.

Bydd 24 tîm yn cystadlu i gyd, ac fe gafodd y saith grŵp eu cyhoeddi heddiw.

Yn yr un grŵp â Chymru a Lloegr (Grŵp 1) mae Rwsia, Bosnia Herzegovina a Khazakhstan.

Mae’r grwpiau eraill yn cynnwys:

 

Grŵp 2 – Y Swistir, Yr Alban, Gwlad Pwyl, Belarws, Albania.

Grŵp 3 – Norwy, Yr Iseldiroedd, Gweriniaeth Iwerddon, Slofacia, Gogledd Iwerddon.

Grŵp 4 – Sweden, Denmarc, Wcráin, Hwngari, Croatia.

Grŵp 5 – Yr Almaen, Gwlad yr Ia, Gweriniaeth Tsiec, Slofenia, Ynysoedd Faroe.

Grŵp 6 – Yr Eidal, Gwlad Belg, Romania, Portiwgal, Moldofa.

Grŵp 7 – Sbaen, Awstria, Y Ffindir, Serbia ac Israel.