Gareth Bale (Llun: Manu Fernandez/AP)
Mae’n edrych yn debyg y bydd yr asgellwr o Gymru’n colli allan ar rownd gynderfynol Cynghrair y Pencampwyr gyda Real Madrid yn erbyn Atletico.

Bu’n rhaid i’r Cymro, 27 oed, adael y cae gydag anaf ar ôl 35 munud yng ngornest El Clasico ddydd Sul.

Ac mae Real Madrid wedi cadarnhau fod gan Gareth Bale anaf gradd 2 i’w goes chwith gyda’i “adferiad yn parhau i gael ei asesu.”

Yn ôl adroddiadau yn Sbaen, mae’n debyg y gallai dreulio tair wythnos oddi ar y cae yn gwella, sy’n golygu na fyddai’n medru chwarae gyda Real Madrid yng Nghynghrair y Pencampwyr ar Mai 2 a 10.

Daw hyn yn dilyn anaf i’w ffêr yn gynharach eleni lle treuliodd tri mis yn adfer.