Fernando Llorente yn ôl ar ei orau mewn da bryd i'r Elyrch (Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe)
Mae tîm pêl-droed Abertawe yn barod i frwydro wrth iddyn geisio aros yn yr Uwch Gynghrair, yn ôl eu prif hyfforddwr Paul Clement.

Enillodd yr Elyrch o 2-0 yn erbyn Stoke yn Stadiwm Liberty brynhawn ddoe i gadw eu gobeithion yn fyw, ond roedd buddugoliaeth hefyd i Hull dros Watford.

Mae hi’n ymddangos ar hyn o bryd mai un ai Abertawe neu Hull fydd yn disgyn i’r Bencampwriaeth y tymor nesaf.

Cyn ddoe, doedd yr Elyrch ddim wedi ennill yr un o’u chwe gêm flaenorol ond er gwaetha’r canlyniad, maen nhw ddau bwynt y tu ôl i Hull o hyd.

‘Positif a bywiog’

Ar ôl i Fernando Llorente a Tom Carroll sicrhau’r fuddugoliaeth, dywedodd Paul Clement: “Ro’n i wedi synhwyro ystafell newid fwy positif a bywiog.

“Mae pawb yn gwybod eu bod nhw wedi gwneud shifft dda yn gorfforol, a’u bod nhw wedi chwarae’n dda yn dactegol ac yn dechnegol.

“Gobeithio y bydd hynny’n ein symbylu ni i fynd ymlaen a gorffen yn gryf iawn.

‘Bwlch’

“Ydyn, ry’n ni ddau bwynt y tu ôl i Hull a nhw sydd â’r fantais.

“Ond ry’n ni’n eu cysgodi nhw, yn anadlu drostyn nhw ac fe wnawn ni hynny hyd y gêm olaf un.

“Pe bai’r bwlch wedi mynd i bum pwynt gyda phedair gêm yn weddill, byddai wedi bod yn anodd iawn i ni, dw i’n meddwl.

“Er nad yw’r gwahaniaeth mewn pwyntiau rhyngom ni wedi newid, yr hyn sydd wedi newid yw ein bod ni wedi rhoi’r rhediad gwael y tu ôl i ni.”

Her nesa’r Elyrch fydd wynebu Man U yn Old Trafford.