Wigan 0–0 Caerdydd      
                                                                   

Mae’r diweddglo diflas i dymor Caerdydd yn parhau wedi gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Wigan yn Stadiwm DW brynhawn Sadwrn.

Ni chafwyd ergyd ar y targed yn yr awr gyntaf a chafwyd dim un gan Gaerdydd hyd yn oed wedi hynny.

Nick Powell a ddaeth agosaf i’r tîm cartref ond roedd Ricky Lambert wrth law i glirio’i gynnig oddi ar y llinell.

Nid yw’r canlyniad yn effeithio llawer ar Gaerdydd wrth iddynt aros yn ddeuddegfed yn nhabl y Bencampwriaeth ond mae’r canlyniad yn cadarnhau i bob pwrpas y bydd Wigan yn disgyn i’r Adran Gyntaf.

.

Wigan

Tîm: Gilks, Burke, Morgan, Burn, Warnock, MacDonald, Jacobs, Hanson (Colclough 58’), Perkins (Bruce 80’), Tunnicliffe, Obertan (Powell 57’)

.

Caerdydd

Tîm: Amos, Connolly, Morrison, Ecuele Manga, Bennett, Gunnarsson, Noone (Meite 80’), M. Harris (Lambert 57’), Ralls, K. Harris (Halford 85’), Pilkington

Cerdyn Melyn: Halford 87’

.

Torf: 10,875