Casnewydd 1–0 Accrington Stanley 
                                           

Cododd Casnewydd o safleoedd disgyn yr Ail Adran gyda buddugoliaeth dros Accrington Stanley ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Roedd y canlyniad hwnnw ynghyd â cholled Hartlepool yn erbyn Barnet yn ddigon i godi’r Alltudion o’r ddau isaf gyda dwy gêm yn weddill.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe ddaeth y gôl holl bwysig i’r tîm cartref ar yr awr yn dilyn rhediad da Alex Samuel. Croesodd yntau i Mark Randall ac er nad oedd hi’n glir os oedd ei gynnig ef wedi croesi’r llinell fe wnaeth Ryan Bird yn siŵr.

Daliodd Casnewydd eu gafael ar lechen lân wedi hynny i sicrhau’r tri phwynt.

Mae’r tri phwynt yn eu codi dros Hartlepool i’r ail safle ar hugain gyda dwy gêm yn weddill ac mae dyfodol y Cymry bellach yn eu dwylo eu hunain.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, Demetriou, O’Brien, Butler, Owen-Evans, Labadie, Randall (Barnum-Bobb 86’), Rigg, Samuel (Gordon 90+2’), Bird (Williams 72’)

Gôl: Randall 60’

Cardiau Melyn: Rigg 29’, O’Brien 38’

.

Accrington Stanley

Tîm: Rodak, Rodgers, Beckles, Hughes (Gornell 84’), Donacien, Clark (Edwards 76’), Pearson, Husin (Brown 70’), McConville, McCartan, Kee

Cardiau Melyn: Brown 83’, McCartan 90’

.

Torf: 3,719