(llun: Tommie Collins)
Cafodd Canolfan Sgiliau Clwb Pêl-droed Porthmadog ei hagor yn swyddogol ddoe gan Reolwr Cynorthwyol Tim Pêl-droed Cenedlaethol Cymru, Osian Roberts, ac Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville-Roberts.

Penderfynodd y Clwb alw’r fenter yn ‘Canolfan Sgiliau Osian Roberts’ fel teyrnged i’w cyn rheolwr a fu’n rhan allweddol o lwyddiant y tîm cenedlaethol yn ystod pencampwriaeth Euro 2016. Cyn ymadael â’r ardal i ymuno gyda Thîm Hyfforddi Cymdeithas Pêl-droed Cymru, rheoli tîm pêl-droed Porthmadog yng Nghynghrair Cymru oedd ei swydd.

Mae’r ganolfan wedi bod yn agored ar gyfer cyrsiau ers diwedd mis Medi llynedd ac mae sawl cwrs wedi bod yno, gan gynnwys cyrsiau technoleg gwybodaeth a chyrsiau busnes. Mae 11 person di-waith wedi cael cyfle i ddatblygu sgiliau gwaith ac amryw wedi derbyn cyngor proffesiynol gan Cyngor ar Bopeth. Yn ogystal mae Adran ‘Pêl-droed yn y Gymuned’ yn rhedeg cyrsiau llythrennedd a rhifedd gyda nifer o ysgolion cynradd lleol a rhai degau o fyfyrwyr ifanc wedi elwa o’r ddarpariaeth.

“Mae’n fraint i agor y Ganolfan Sgiliau yn Clwb Pêl Droed Porthmadog, meddai Osian Roberts wrth Golwg360.

Doeddwn erioed yn meddwl y baswn i’n cael fy ngwahodd yn ôl bfynyddoedd ar ôl gadael i agor adeilad fel hyn – a gweld y datblygiadau sydd wedi  eu gwneud oddi ar y cae.

“Mae’n glwb pwysig i’r dref ac i’r ardal, roeddwn yma am saith mlynedd gyda Viv Williams ac roedd yn amser pleserus, cawsom lot o fwynhad yma. Ac yn sicr mae angen diolch i’r gwirfoddolwyr – nifer sy’n dal yma ers fy amser i, hebddyn nhw fyddai’r clybiau ddim yn bod.”

Wrth groesawu’r fenter, dywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville-Roberts: “Rwy’n hynod  o falch i weld canolfan fel hon yn agor – yn enwedig ar ôl trafferthion y llifogydd yn ddiweddar. Gobeithio  y bydd canolfan addysg ar sefydliad fel stadiwm pêl droed yn ysgogi a denu pobl i fynychu addysg anffurfiol.”