Paul Clement a'i dîm dan bwysau (Llun: golwg360)
Mae pob gêm sy’n weddill o’r tymor pêl-droed “fel ffeinal Cwpan y Byd”, yn ôl prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement.

Mae’r Elyrch yn ddeunawfed yn y tabl gyda phum gêm yn weddill, ac mae Paul Clement eisoes wedi dweud bod rhaid iddyn nhw guro Stoke yn Stadiwm Liberty brynhawn dydd Sadwrn i gadw eu gobeithion o oroesi’n fyw.

Os oes angen i’r Elyrch drin y gêm fel ffeinal Cwpan y Byd, fe fydd rhaid iddyn nhw dynnu ar brofiadau dau aelod o’r garfan – Fernando Llorente (Sbaen) a Federico Fernandez (Yr Ariannin) – sydd wedi chwarae yn y fath gêm.

Y sefyllfa

Mae Hull ddau bwynt uwchben yr Elyrch erbyn hyn, sy’n golygu nad yw tynged y Cymry bellach yn eu dwylo eu hunain yn llwyr.

Ar ôl Stoke, fe fydd ganddyn nhw daith i Old Trafford i herio Man U ac i Sunderland, yn ogystal â dwy gêm gartref yn erbyn Everton a West Brom.

Dywedodd Paul Clement wrth golwg360: “[Mae pob gêm] fel ffeinal Cwpan y Byd. Dw i wedi dweud hynny wrth y chwaraewyr. Dyna ry’n ni’n paratoi ar ei gyfer yr wythnos hon, a bydd y gêm nesaf yr un fath.

“Ond rhaid i ni ddelio â hon [yn erbyn Stoke] oherwydd os na wnawn ni hynny, mae’n bosib na fydd gyda ni ffeinal Cwpan y Byd yn y gêm nesaf. Dyna lle’r y’n ni nawr.”

Ail hanner cymysg yn nhymor 2016-17

Ar ôl curo Lerpwl, Southampton a Chaerlŷr yn fuan ar ôl i Paul Clement gael ei benodi ddechrau’r flwyddyn, dydy’r Elyrch ddim wedi ennill yr un gêm ers iddyn nhw guro Burnley ar Fawrth 4.

Maen nhw wedi colli wyth gêm gynghrair ac wedi cael un gêm gyfartal yn y cyfnod hwnnw.

Ond mae Paul Clement wedi wfftio’r awgrym fod y llwyddiant cynnar hwnnw wedi arwain at elfen o ddifaterwch yn ddiweddar.

“Dim o gwbl. Oherwydd i gyrraedd y sefyllfa honno, roedd rhaid i ni frwydro ac ymladd am bopeth.

“Roedden ni’n gwybod y gallen ni fynd y ffordd arall yr un mor gyflym. Ry’n ni wedi bod yn trafod hynny drwy’r amser.

“Felly dyw e ddim yn fater o ddifaterwch o gwbl, tynnu ein llygaid oddi ar y bêl o ran yr hyn roedd rhaid i ni ei wneud. Nid felly o gwbl.”

Rhwng Abertawe a Hull?

Mae’n debygol erbyn hyn mai’r Elyrch neu Hull fydd y trydydd tîm i ddisgyn o’r Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Fe fydd selogion yr Elyrch yn cofio’r diwrnod tyngedfennol hwnnw yn hanes y clwb pan aethon nhw i Hull ar ddiwrnod olaf tymor 2002-03 gan wybod fod rhaid iddyn nhw ennill er mwyn aros yn y Gynghrair Bêl-droed.

Mae un o’r dynion allweddol y diwrnod hwnnw, Alan Curtis bellach yn y cefndir ar ôl bod yn aelod o’r tîm hyfforddi ers blynyddoedd lawer.

“Mae gyda ni bobol o’n cwmpas ni drwy’r amser [sy’n cofio’r diwrnod hwnnw yn Hull],” meddai Paul Clement.

“Pobol bositif sydd â gwên ar eu hwynebau drwy’r amser o gwmpas y chwaraewyr. Mae’r egni o gwmpas y lle yn dda ac mae’r chwaraewyr yn bositif am yr hyn sy’n gallu cael ei gyflawni.

“Ry’n ni’n gwybod nad y’n ni wedi gwneud yn ddigon da yn ddiweddar. Mae ein sefyllfa ni nawr yn adlewyrchu’r cyfnod i gyd. Dyw e ddim yn golygu bo ni’n arfer bod yn wych a bo ni bellach yn crap.”

Mantais yn Stadiwm Liberty?

Mae’r ffaith fod perfformiadau’r Elyrch wedi bod ychydig yn well ar eu tomen eu hunain yn cynnig rhywfaint o obaith i Paul Clement.

“Os edrychwch chi ar y gemau cartref a’r ffordd ry’n ni wedi chwarae, ry’n ni wedi gwneud tipyn gwell.

“Dw i’n dal i drio darganfod pam ei bod yn fwy anodd ennill oddi cartref. Nid dim ond y dorf yw e, mae nifer o ffactorau gwahanol.

“Fe all fod elfen o’r hyn sy’n gyfarwydd, gofynion y teithio, cysgu yn eich gwely eich hun, dylanwad y dorf ar y dyfarnwr…”

Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn am 3 o’r gloch.