Ian Rush yn gafael yn dynn yn nhlws UEFA, Awst 2016
Mae Cymru yn cynnal rownd derfynol Tlws Pencampwyr Ewrop ar Fehefin y drydedd ond cyn hynna mae’r tlws yn mynd ar daith rownd y wlad.

Bydd y tlws yn cyrraedd y brifddinas ar Ebrill 21, gyda gorymdaith o Gastell Gaerdydd i Stadiwm Principality.

Bydd wedyn yn mynd ar daith rownd clybiau pêl droed, ysgolion a mannau poblogaidd.

Mae clwb pêl-droed Y Bala yn falch bod y tlws yn dod i Faes Tegid ddydd Mercher, Ebrill 26. Bydd yno o chwech y nos tan wyth y nos, a bydd noson o ddigwyddiadau yno i ddathlu’r achlysur.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Uwchgynghrair, Gwyn Derfel: ”Rwy’n hynod  o falch bod y dlws yn mynd rownd clybiau’r Uwchgynghrair. Mae’n ffantastig bod yr holl sylw cael ei rhoi i Gymru a’r gynghrair genedlaethol rhwng nawr a diwrnod y ffeinal.”

Mae clwb pêl droed Y Drenewydd yn falch o groesawu’r tlws ddydd Sadwrn, Mai 6. “Mae hyn yn ffantastig i’r clwb, i gael y tlws enwocaf yn bêl droed Ewrop ar Barc Latham, meddai Swyddog y Wasg, Jonny Drury.

“Rydan yn gobeithio cael achlysur a hanner, ac fel aelodau sylfaenol o’r Uwchgynghrair mae’n wych i’r clwb ar ardal.”

Am Geredigion… 

Pan fydd Ceredigion yn croesawu’r tlws dydd Sul nesa’ gyda’r bonws o Dlws Bencampwriaeth y Merched yno hefyd ar Goedlan y Parc, Aberystwyth.

“Mae’n fraint bod  bawb ledled y Sir gyda chyfle i weld y tlws enwog, bydd cyfle i bawb tynnu lluniau ar y diwrnod.

“Fel rhan o’r diwrnod bydd diwrnod o dreialon i nifer o oedrannau ar gyfer ymuno ac academi’r clwb am dymor 2017/18,” meddai Russel Hughes-Pickering, Gweinyddwr yr Academi.

Y daith yn llawn

Dydd Sadwrn, Ebrill 22 rhwng 1.30yp a 3yp – Stadiwm Liberty Abertawe

Dydd Sul, Ebrill 23 rhwng 4yp a 8yh – Clwb Pêl-droed Aberystwyth

Dydd Llun, Ebrill 24 rhwng 2yp a 7yh – Clwb Pêl-droed Bangor

Dydd Mawrth, Ebrill 25 rhwng 5yp a 18.30yh – Clwb Pêl-droed Llandudno 

Dydd Mercher, Ebrill 26 rhwng 6yh a 8yh – Clwb Pêl-droed Y Bala

Dydd Sadwrn, Ebrill 29 trwy’r dydd – Castell Biwmares

Dydd Sul, Ebrill 30 rhwng 11yb a 5yp – Portmeirion

Dydd Llun, Mai 1 rhwng 6yh a 8 yh – Clwb Pêl-droed Derwyddon Cefn

Dydd Iau, Mai 4 rhwng 10yb a 4yp – canol tref Hwlffordd

Dydd Sadwrn, Mai 6 rhwng 9yb a 11yb – Clwb Pêl-droed Y Drenewydd; rhwng 1yp a 3 yp – Canolfan Hamdden Aberhonddu; rhwng 5yp a 8yh – Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful

Dydd Sul, Mai 7 rhwng 10yb a 2yp – Dinbych-y-pysgod

Dydd Llun, Mai 8 rhwng 2yp a 4yp – Casnewydd; rhwng 6yh a 8yh – Stadiwm Cwmbrân