Mae plismyn sy’n ymdrin â honiadau hanesyddol o gam-drin plant ym myd pêl-droed, wedi datgelu bod 250 unigolyn dan amheuaeth fel rhan o’u hymchwiliad.

Mae’r Cyngor Penaethiaid Heddlu Cenedlaethol hefyd wedi datgelu bod ‘Ymchwiliad Hydrant’ bellach yn ymdrin â 560 dioddefwr, sydd yn fwy na’r 536 oedd ar eu llyfrau ym mis Ionawr.

Y llynedd, cafodd llinell gymorth ei sefydlu, ar ôl i sawl cyn bel-droediwr ddatgelu eu bod wedi cael eu cam-drin yn rhywiol pan oedden nhw’n blant.

Wedi i’r llinell gael ei sefydlu bu cynnydd yn y nifer o honiadau o gam-drin a bellach mae 311 clwb pêl droed yn rhan o’r ymchwiliad, o glybiau’r Uwch Gynghrair i glybiau lefel amaturaidd.

Mae dioddefwyr camdriniaeth wedi eu hannog i gysylltu â’r llinell gymorth ar 0800 023 2442 neu trwy gysylltu â’r heddlu ar 101.