Roedd dathlu yn y Barri nos Fawrth, wedi i’r clwb pel-droed ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru – a hynny ar ôl 13 blynedd allan o’r gynghrair, a phedair blynedd ers iddyn nhw bron iawn fynd allan o fusnes.

Fe enillodd Y Barri o 3-0 yn erbyn Goytre er mwyn sicrhau dyrchafiad, o flaen torf o dros 600, yn ôl adroddiadau.

Roedd y cefnogwr brwd, Ian Johnson, yno ac yn dathlu ar ôl y gêm.

“Roedd awyrgylch gwych yn y stadiwm ac yn enwedig yn y  clwb ar ôl y gêm lle’r oedd pawb yn dathlu,” meddai wrth golwg360. “Mae’r clwb wedi bod trwy’r felin, ond mae’r  rheolwr Gavin Chesterfield ar chwaraewyr yn haeddu bob clod.

“Rydan ni fel cefnogwyr a’r clwb yn edrych ymlaen at deithio ledled Cymru y tymor nesa’ – a’r nod yw, un diwrnod, gweld Y Barri yn ôl ar lwyfan Ewrop.”

Trafferthion

Mae wedi bod yn gyfnod hir gyda thrafferthion oddi ar y cae a fyddai wedi gallu suddo’r clwb oni bai am frwydr y cefnogwyr. Mae hi wedi fod yn frwydr hir, gyda’r cefnogwyr yn dod yn berchen ar y clwb yn 2011.

Roedd y clwb yn dominyddu’r Uwch Gynghrair ar ôl ymuno â Chynghrair Cymru yn 1993 ar ôl bod yn chwarae yn Lloegr.

Yn 2001, fe lwyddodd Y Barri i fod y clwb cyntaf yng Nghymru i ennill gêm ragbrofol yng Nghynghrair y Pencampwyr, gan guro clwb o Azerbaijan, FK Shamir, cyn chwarae cewri Portiwgal Porto. Er colli 8-0 yn Porto enillodd y Barri’r ail gymal o 3-1.