Rodney Parade, cae Casnewydd (pwimageglow CCA 3.0)
Fe fydd rhaid i Gasnewydd aros ychydig eto am eu hatgyfodiad gwyrthiol ar ôl cael cosfa gan un o dimau gorau’r Ail Adran.

Mae’r gurfa o 6-1 gan Plymouth Argyle yn golygu bod y clwb o Went yn aros yn nau safle isa’r adran ac mewn peryg o gwympo o brif gynghreiriau Lloegr.

Mae’r tîm wedi cael cyfres o ganlyniadau da i roi gobaith iddyn nhw ond roedd y gêm heddiw’n ormod oddi cartre’ wrth i Plymouth sicrhau dyrchafiad i’r Adran Gyntaf.

Gyda chanlyniadau eraill hefyd yn mynd yn erbyn Casnewydd, eu gobaith mwya’ yw mynd heibio i Hartlepool sydd un pwynt yn uwch na nhw, gyda thair gêm yn weddill.

  • Fe lwyddodd Caerdydd i guro Nottingham Forest o 1-0 yn y Bencampwriaeth ac fe roddodd Wrecsam derfyn ar rediad gwael wrth guro York City o 3-1 … mae’r ddau glwb Cymreig tua chanol eu tablau, heb bwys mawr ar yr un o’r ddwy gêm.