Paul Clement (Llun: golwg360)
Mae’n rhaid i dîm pêl-droed Abertawe ennill eu gêm nesaf yn erbyn Stoke, yn ôl y prif hyfforddwr Paul Clement.

Daw ei neges ar ôl i’w dîm golli o 1-0 yn Watford brynhawn ddoe.

Mae’r Elyrch yn aros yn y tri safle isaf yn yr Uwch Gynghrair am y tro.

Daeth gôl Etienne Capoue i Watford yn dilyn camgymeriad amddiffynnol gan Alfie Mawson ar ymyl y cwrt cosbi.

Mae’r canlyniad yn golygu bod yr Elyrch wedi colli pum gêm allan o chwech yn ddiweddar, ac maen nhw ddau bwynt i ffwrdd o ddiogelwch gyda dim ond pum gêm yn weddill.

Stoke

Ar ôl i Stoke guro Hull ddoe, mae’n hanfodol fod yr Elyrch yn curo’r tîm o ganolbarth Lloegr yn Stadiwm Liberty ymhen wythnos.

Dywedodd Paul Clement: “Dw i’n credu bod rhaid ennill y gêm.

“Gyda phum gêm yn weddill, fe fydd angen i ni ennill tair o’r rheiny, fwy na thebyg, a phwy a wyr a fydd hynny’n ddigon hyd yn oed?

“Dw i’n credu y gallwn ni ennill tair allan o’r pum gêm, ry’n ni wedi ennill pedair allan o chwech.

“Mae gwir angen i ni guro Stoke ddydd Sadwrn nesaf.”

Alfie Mawson

Dywedodd Paul Clement fod Alfie Mawson yn “siomedig iawn” yn dilyn ei gamgymeriad.

“Mae e’n gwybod ei fod e wedi gwneud camgymeriad mawr a gobeithio na fydd e’n gwneud hynny byth eto.”

Dywedodd Paul Clement fod perfformiad amddiffynnol ei dîm yn “iawn” ond bod y “camgymeriad unigol” wedi dod ar “adeg wael”.

“Nid dyna’r math o gamgymeriad ry’ch chi’n disgwyl gan eich amddiffynnwr canol.”