Mae Clwb Pêl-droed Everton wedi gwahardd newyddiadurwyr o bapur newydd The Sun rhag mynd i Barc Goodison.

Mae Everton yn chwarae yn erbyn Burnley heddiw, a daw’r gwaharddiad ar ôl i golofnydd a chyn-olygydd y papur, Kelvin MacKenzie gymharu’r chwaraewr Ross Barkley, sydd â theulu’n hanu o Nigeria, â gorila.

Mae’n union 28 o flynyddoedd heddiw ers y trychineb gwaethaf yn hanes y byd pêl-droed yng ngwledydd Prydain, pan gafodd 96 o gefnogwyr Lerpwl eu lladd yn stadiwm Hillsborough ar ddiwrnod gêm rhwng Lerpwl a Nottingham Forest yn rownd gyn-derfynol Cwpan yr FA.

Mewn colofn yn y papur ddydd Gwener, dywedodd Kelvin MacKenzie fod pobol o ddinas Lerpwl sy’n ennill £60,000 yr wythnos yn gwerthu cyffuriau.

Mae Maer Lerpwl, Joe Anderson wedi mynd â’r achos at yr heddlu, ac maen nhw’n ystyried a ddylai Kelvin MacKenzie wynebu unrhyw gyhuddiadau.

Datganiad gan Everton

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Everton fod sylwadau Kelvin MacKenzie yn “annerbyniol”.

“Mae’n rhaid fod y papur newydd yn gwybod nad yw unrhyw ymosodiad ar y ddinas hon, boed yn erbyn cymuned neu unigolyn uchel ei barch, yn dderbyniol.”

Mae’r papur newydd wedi ymddiheuro am y sylwadau, gan fynnu nad oedden nhw’n ymwybodol o gefndir ethnig Ross Barkley.

Mae Kelvin MacKenzie ei hun wedi wfftio honiadau bod ei golofn yn un hiliol.