Bydd Goedlan y Parc  yn llawn tensiwn heno gyda “six-pointer’ go iawn ar y gweill wrth i Rhyl deithio i Geredigion i  gwrdd ag Aberystwyth.

Mae’r ddau glwb yn glybiau llawn potensial ond dros y blynyddoedd maen nhw wedi tan gyflawni a bydd un yn syrthio  o’r Uwchgynghrair y tymor hwn.

Mae’r ddau glwb wedi chwarae 30 gêm ond mae Aber gyda 31 pwynt a Rhyl gyda 29 pwynt. Pe bai’n gêm gyfartal heno bydd y tensiwn yn parhau i’r wythnos nesaf pan mae Aber yn teithio i’r Drenewydd a Rhyl adre i Landudno.

Mae Aberystwyth wedi bod yn rhan o’r Uwchgynghrair ers eu sefydlu, felly byddai’n  drychineb iddyn nhw i ddisgyn allan. Mae ansicrwydd hefyd i ba gynghrair fydden nhw’n mynd petai hynny’n digwydd – cynghrair y De ta Gogledd?

Aberystwyth

Barn Dilwyn Roberts-Young, Cyd-olygydd rhaglen Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth gyda’i wraig Llinos:

“Mae Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth wedi bod yn Uwchgynghrair Cymru ymhob tymor o fodolaeth ein cynghrair genedlaethol. Dim ond Dinas Bangor a’r Drenewydd sydd yn gallu efelychu’r gamp ac mae’n anodd credu ein bod ni heno yn gorfod curo’r Rhyl er mwyn sicrhau ein bod ni’n osgoi’r cwymp! Bu tymor 2016-2017 yn un eithriadol o heriol wrth i ni chwarae’r dwsin gêm gyntaf oddi cartref. Ar ben hynny, dyma’r llifoleuadau’n cael eu llorio gan wyntoedd cryfion ac ansicrwydd pellach o ran chwarae ar gae bob tywydd newydd y Clwb. Dyma ni bellach, gyda chymorth cyn hyfforddwr tîm cyntaf Hull City Tony Pennock, yn wynebu gêm dyngedfennol. Ennill ac mae’r Gwyrdd a Du yn ddiogel am dymor arall, gêm gyfartal neu golli ac mi fydd yna wythnos arall a gnoi ewinedd a rhygnu dannedd i’r cefnogwyr! Dwi ddim am feiddio proffwydo’r canlyniad – ond dwi’n gwybod mai peth ffôl ydi ffoli ar ffwtbol!”

Y Rhyl

Barn yr ymosodwr Toby Jones, sy’n deall pwysigrwydd y gêm:

“Mae’n gêm enfawr, rydan yn deall bod ni’n gorfod mynd yna  i gael tri phwynt – does dim pwynt meddwl am gêm gyfartal, ennill di’r nod.  Mae wedi bod yn dymor ‘roller coaster’ – mae’n rhaid i ni gario blaen gyda’r momentwm ar ôl curo Airbus dydd Sadwrn diwethaf.  Bydd awyrgylch gwych yno a gobeithio bydd cefnogwyr ni yno mewn llais da.

“Rwyf yn teimlo fy mod fi fy hun wedi cael tymor iawn -a dwi wedi arwyddo cytundeb am dymor nesa gyda’r Rhyl – felly mae’n hanfodol i fi a’r clwb bod ni’n goroesi yn y gynghrair – i fod yn onest pe bai Aber neu ni yn mynd i lawr bydd yn ergyd i’r gynghrair. Mae’r ddau glwb â  photensial i neud yn well a chael torfeydd da.”

Bydd y gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar dudalen Facebook Sgorio – y gic gyntaf 19.45