Gareth Bale yn dathlu wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Gogledd Iwerddon yn ystod Ewro 2016 Llun: PA
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi ei chyfrifon blynyddol, gan ddangos trosiant o £21m, sy’n gynnydd o £10.5m (102%) ar y flwyddyn flaenorol.

Mae’r cynnydd oherwydd i’r tîm fynd drwodd i rownd 16 olaf pencampwriaeth Ewro 2016.

Mae’r Gymdeithas am ail fuddsoddi’r arian i wella cyfleusterau, yn ôl y Prif Weithredwr, Jonathan Ford, ac mae wedi dweud yn flaenorol bod mynd drwodd i’r rownd gynderfynol wedi gwneud elw o £3m i’r gymdeithas.

Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf wnaethon nhw ariannu dros 50 o gemau, twrnameintiau, a champau ymarfer ar draws bob lefel, yn ogystal â rhedeg Uwchgynghrair Cymru i’r dynion a’r merched.

Ond mae golwg360 wedi bod yn holi cefnogwyr o’r gogledd, canolbarth a’r de am eu syniadau nhw ynglyn a’r hyn ddylai’r Gymdeithas wneud â’r arian…

Barn Martyn Jones, FSF Gogledd Cymru

“Yn dilyn y profiad rhyfeddol yn Ffrainc yr haf diwethaf, wnaiff aros yn y cof am weddill fy oes,  dw i’n teimlo bod gan y Gymdeithas dasg bwysig wrth benderfynu lle i wario’r arian. Mi ddylai’r arian gael ei fuddsoddi ar lefel sylfaenol y gêm ledled Cymru.

“Dw i o’r gogledd, ac mae nifer o gaeau 3G ganddon ni yma, ac mae’n hynod o bwysig i bawb gael mynediad iddyn nhw. Mae Bala a Llandudno’n esiamplau gwych, ac mae prisiau eu llogi nhw’n rhad.

“Ond dw i’n teimlo bod caeau colegau a chyfleusterau cynghorau yn ddrud. Mae’n bosib y basai’r Gymdeithas yn gallu rhoi cymorth efo hyn. Mewn mannau eraill, dw i’n sicr y dylen nhw adeiladu canolfan debyg i’r hyn sydd ganddyn nhw yng Nghasnewydd, rwy’n sicr bod o fantais i’r gêm yn y gogledd.

“Ac yn olaf, mi faswn i’n hoff pe baen nhw’n gwobrwyo’r cefnogwyr ffyddlon o’r gogledd – o bosib helpu efo’r gwasanaeth trenau i gael pris teg o’r gogledd i gemau cartref.”

Barn Gwilym Boore

“Mae’n rhaid sicrhau bod paratoadau i’r timau sy’n cynrychioli ein gwlad cystal  ag y maen nhw’n gallu bod a, heb os, buddsoddi yn y Cae Ras fel bod rhai gemau yn cael eu chwarae yno i fodloni’r cefnogwyr o’r gogledd.”

Barn Sion England, Llanrhystud

“Mi fydd y galw i wario’r arian yn y de yn naturiol, tra bydd y gogledd yn dadlau bod angen gwobrwyo selogion y gogs. Ond mi faswn innau’n dadlau bod angen edrych ar y canolbarth – ardal sy’n dueddol o golli allan ar draul y cymdogion o’r naill ochr.

“Gyda’r Drenewydd mewn safle gwych reit yng nghanol y wlad, mi fuasai buddsoddiad i gyfleusterau yno o fudd i Gymru gyfan. Trwy wella ar y sail gadarn sydd eisoes ar Barc Latham  fel bod gemau dan 21 a gemau’r merched yn gallu cael eu chwarae yno’n rheolaidd, gellir sicrhau bod effeithiau haf diwetha’ yn parhau i’r dyfodol.”