Bromley 4–3 Wrecsam          
                                                           

Colli fu hanes Wrecsam yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn er iddynt sgorio tair gôl yn erbyn Bromley ar Hayes Lane.

Aeth y tîm cartref dair gôl ar y blaen cyn i’r Dreigiau daro nôl gyda dwy, ond daliodd Bromley eu gafael yn y diwedd.

Rhoddodd gôl gynnar Tobi Sho-Silva Bromley ar y blaen cyn i Jordan Higgs ddyblu’r fantais wedi ugain munud.

Ychwanegodd Sho-Silva ei ail ef a thrydedd ei dîm yn gynnar yn yr ail hanner ac roedd hi’n ymddangos ar ben.

Roedd Wrecsam nôl yn y gêm ar yr awr serch hynny diolch i goliau Jordan White a Ntumba Massanka.

Sicrhaodd Blair Turgott y fuddugoliaeth i’r tîm cartref saith munud o’r diwedd gan olygu mai gôl gysur yn unig a oedd ail Massanka dri munud yn ddiweddarach.

Mae’r canlyniad yn gadael Wrecsam yn ddeuddegfed yn y tabl gyda phedair gêm yn weddill.

.

Bromley

Tîm: Flitney, McLoughlin, Johnson, Hall, Holland, Wynter, Porter, Dymond (Minshull 68’), Higgs (Omofe 87’), Turgott, Sho-Silva (Goldberg 71’)

Goliau: Sho-Silva 9’, 48’, Higgs 21’, Turgott 83’

Cerdyn Melyn: Omofe 90+4’

.

Wrecsam

Tîm: Jalal, Riley, Allen (Smith 80’), Penn, Rutherford, Carrington, Evans, shenton, Marx, White, McLeod (Massanka 53’)

Goliau: White 52’, Massanka 58’, 86’

Cerdyn Melyn: Riley 77’

.

Torf: 1,006