Exeter 0–1 Casnewydd   
                                                                  

Mae gobeithion Casnewydd o aros yn yr Ail Adran yn fyw o hyd yn dilyn buddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Exeter yn St James Park brynhawn Sadwrn.

Tri phwynt yn unig sydd bellach yn gwahanu’r Alltudion a diogelwch yr ail safle ar hugain wedi i gôl Tom Owen-Evans gipio tri phwynt gwerthfawr arall iddynt.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe aeth yr ymwelwyr o dde Cymru ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod pan rwydodd Owen-Evans gydag ergyd dda o du allan i’r cwrt cosbi.

Profodd yr un gôl honno’n ddigon wrth i dîm Mike Flynn ddal eu gafael tan y diwedd.

Mae Casnewydd yn aros yn y ddau isaf er gwaethaf y fuddugoliaeth ond tri phwynt yn unig sydd bellach yn eu gwahanu hwy a Hartlepool yn yr ail safle ar hugain gyda pump gêm yn weddill.

.

Exeter

Tîm: Pym, Sweeney, Brown, Moore-Taylor (Stacey 45’), Croll, Taylor, James (Oakley 65’), Tilson (Watkins 54’), Harley, Reid, Wheeler

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, Bennett, Demetriou, O’Brien, Butler, Owen-Evans, Randall (Jones 75’), Rose, Samuel (Myrie-Williams 90+2’), Bird (Williams 64’)

Gôl: Owen-Evans 53’

Cardiau Melyn: Randall 70’, Jones 89’

.

Torf: 4,040