West Ham 1–0 Abertawe            
                                                    

Mae trafferthion Abertawe tua gwaelodion Uwch Gynghrair Lloegr yn dwysáu wedi iddynt golli oddi cartref yn erbyn West Ham brynhawn Sadwrn.

Mae’r Elyrch yn aros yn y tri isaf wedi i gôl Cheik Kouyate ei hennill hi i’r tîm cartref yn Stadiwm Llundain.

Yr Hammers a oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf ac roeddynt yn haeddu mynd ar y blaen funud cyn yr egwyl gydag ergyd isel gadarn Kouyate o bum llath ar hugain.

Gwnaeth Paul Clement ddau newid ar yr egwyl gyda Fernando Llorente a Luciano Narsingh yn dod i’r cae i geisio newid pethau.

Narsingh a ddaeth agosaf i’r ymwelwyr ond aeth ei ergyd fodfeddi dros y trawst wrth i West Ham ddal eu gafael ar y tri phwynt.

Mae’r canlyniad yn gadael Abertawe yn y deunawfed safle, ddau bwynt y tu ôl i Hull gyda chwe gêm yn unig yn weddill.

.

West Ham

Tîm: Randolph, Byram, Fonte, Collins, Masuaku, Snodgrass (Feghouli 71’), Noble, Kouyate, Lanzini, Antonio (Calleri 40’), A. Ayew (Fernandes 86’)

Gôl: Kouyate 44’

Cardiau Melyn: Noble 38’, Kouyate 44’, Lanzini 57’, A. Ayew 81’, Randolph 90+4’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson, Fer, Cork (Montero 65’), Carroll (Llorente 45’), Routledge (Narsingh 45’), J. Ayew, Sigurdsson

Cerdyn Melyn: Fernandez 77’

.

Torf: 56,973