Mae clybiau Uwch Gynghrair Cymru wedi cael gwybod y prynhawn yma pwy sydd wedi cael yr hawl i chwarae y tymor nesa’.

Roedd cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw i ystyried Trwyddedau Domestig UEFA a Chymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer tymor 2017/18.

Roedd nifer o glybiau – yn enwedig Prestatyn – yn cnoi eu hewinedd, ond fe ddaeth cadarnhad eu bod wedi bod yn llwyddiannus ac y byddan nhw’n cwarae.

Mae clwb Y Barri wedi bod yn llwyddiannus hefyd yn ennill trwydded ddomestig – a phe baen nhw’n gorffen yn gyntaf neu’n ail yn eu cynghrair mi fyddan nhw’n chwarae yn yr Uwch Gynghrair y flwyddyn nesa’ am y tro cynta’ ers 2004.

Trwydded Domestig a UEFA 2017/18 (10 clwb)

  • Aberystwyth
  • Y Bala
  • Bangor
  • Met Caerdydd
  • Caerfyrddin
  • Derwyddon Cefn
  • Cei Connah
  • Y Drenewydd
  • Llandudno
  • Y Seintiau Newydd

Trwydded Domestig Cymdeithas Bêl Droed Cymru 2017/18 (6 chlwb )

  • Airbus
  • Y Rhyl
  • Y Barri
  • Clwb pêl Droed Tref Caernarfon
  • Y Fflint
  • Prestatyn

Pwy gafodd eu gwrthod?

Hwlffordd

Pwy dynnodd eu cais yn ol?

  • Bwcle
  • Conwy Borough
  • Porthmadog
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Port Talbot
  • Rhisga United