Abertawe 1–3 Tottenham                              
                                 

Dychwelodd Abertawe i safleoedd disgyn Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl ildio tair gôl hwyr wrth golli yn erbyn Spurs ar y Liberty nos Fercher.

Roedd yr Elyrch ar y blaen gyda thri munud o’r naw deg yn weddill ond sgoriodd Tottenham dair gôl hwyr i gipio’r tri phwynt yn ne Cymru.

Rhoddodd Wayne Routledge y tîm cartref ar y blaen wedi un munud ar ddeg yn dilyn gwaith da Jordan Ayew ar y dde, ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Yn wir, felly yr arhosodd hi tan dri munud o ddiwedd y naw deg pan adlamodd y bêl yn garedig i Dele Alli am gôl syml wrth y postyn pellaf.

Rhoddodd Son Heung-min yr ymwelwyr ar y blaen ychydig funudau’n ddiweddarach wedi sodliad da Vincent Janssen, ac fe sicrhaodd Christian Eriksen y fuddugoliaeth gyda gôl dda yn y pedwerydd munud o amser brifo.

Mae’r canlyniad yn rhoi Abertawe nôl yn safleoedd y gwymp gan i Hull guro Middlesbrough.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton (Ki Sung-yueng 72’), Fernandez, Mawson, Olsson, Fer, Cork, Carroll, Routledge (Narsingh 90+4’), Ayew (McBurnie 75’), Sigurdsson

Gôl: Routledge

Cerdyn Melyn: Ayew 17’

.

Tottenham

Tîm: Vorm, Walker, Alderweireld, Vertonghen, Davies (Nkoudou 79’), Dier, Dembele, Siddoko (Janssen 61’), Alli, Eriksen,Son Heung-min (Trippier 90+4’)

Goliau: Alli 88’, Son Heung-min 90+1’, Eriksen 90+4’

Cerdyn Melyn: Dier 78’

.

Torf: 20,855