Jess Fishlock (canol) yn erbyn Lloegr (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)
Mae Jess Fishlock, y bêldroedwraig o Gaerdydd, yn creu record yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Gogledd Iwerddon heddiw, trwy ennill ei chanfed cap.

Hi fydd y beldroedwraig gynta’ o Gymru i gyrraedd y nod hwnnw. Y cyn gôl-geidwad, Neville Southall, sy’n dal record y dynion, gyda 92 o gapiau.

Mae’r gêm gyfeillgar yn Ystrad Mynach yn un o ddwy y mae merched Cymru yn eu chwarae er mwyn paratoi am rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd sy’n dechrau ym mis Medi.

Ar hyn o bryd, mae Jess Fishlock yn chwarae  i Seattle Reign a Melbourne City.

Diwrnod emosiynol i’r teulu

“Maen nhw wedi bod yna drwy’r cyfan,” meddai Jess Fishlock wrth golwg360. “Mi fydd yn brofiad anferth i mi oherwydd presenoldeb fy nheulu. Wnes i erioed feddwl y bydden i’n cyrraedd 100 o gemau… y cyfan ydw i wedi bod eisiau ydi chwarae dros fy ngwlad.

“Rwy’n cofio fy ngêm gyntaf yn erbyn y Swistir yn 2006, ennill 3-2 wnaethon ni, ac fe sgoriais i o gic rydd. I gyrraedd y garreg filltir nawr mae’n rhyfeddol, ac rwy’n hynod o falch.”

Allan ohoni

Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, doedd Jess Fishlock ddim yn credu y byddai cyrraedd y garreg filltir hon yn bosib. Bryd hynny, roedd rheolwraig Cymru, Jayne Ludlow, wedi ei gadael allan o’r garfan yn llwyr. Roedd hynny pan oedd hi ar 82 o gapiau.

“Yr adeg honno, o’n i’n methu credu’r penderfyniad,” meddai, “ac fe dorrodd fi’n gyfan gwbwl.

“Ond, ar ddiwedd y dydd, mae hi wedi gwneud job dda gyda’r tîm, ac rwy’n parchu ei phenderfyniad erbyn nawr.  Ond roedd cael fy ngalw’n ôl i’r garfan yn foment arbennig, a dw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.”

Hanes yr yrfa

Bydd y canfed cap yn benllanw gyrfa 15 mlynedd a ddechreuodd gyda Merched Caerdydd a chyfnodau wedyn yn Bryste, Yr Alban, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Awstralia ac America.

A hithau bellach yn 30 oed, mae Jess Fishlock wedi dechrau hyfforddi gyda Melbourne City ers dechrau’r flwyddyn ac roedd yn chwarewr/rheolwr am weddill tymor W-League. 

Ym mis Chwefror eleni, fe enillodd yn y ffeinal yn erbyn Perth Glory o 2-0, pan sgoriodd a chael ei henwi’n seren y gêm.

Mae nifer o sylwebwyr yn disgwyl gweld Jess Fishlock yn dod yn hyfforddwraig ryngwladol ar ddiwedd ei gyrfa ar y cae.