Barnsley 0–0 Caerdydd       
                                                             

Mae diweddglo diflas Caerdydd i’r tymor yn parhau wedi gêm gyfartal ddi sgôr oddi cartref yn erbyn Barnsley yn Oakdale nos Fawrth.

Mae’r pwynt yn cadw’r Adar Gleision yng nghanol tabl y Bencampwriaeth, ym mhell o’r safleoedd ail gyfle a safleoedd y gwymp.

Chwaraeodd pum Cymro ran yn y gêm i Barnsley, pedwar o’r dechrau ac un oddi ar y fainc. Roedd hynny’n bedwar yn fwy na Chaerdydd!

Ond er i Adam Davies a Gethin Jones gyfrannu at lechen lân i’r tîm cartref fe fethodd Marley Watkins, Tom Bradshaw a Ryan Hedges ganfod y rhwyd yn y pen arall wrth iddi orffen yn gyfartal.

Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn bedwerydd ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth gyda chwe gêm yn weddill, un pwynt ac un safle y tu ôl i Barnsley.

.

Barnsley

Tîm: Davies, Janko, Roberts, MacDonald, Jones, Watkins, Mowatt (Kent 71’), James, Scowen, Hammill (Hedges 84’), Bradshaw (Armstrong 84’)

Cerdyn Melyn: Janko 76’

.

Caerdydd

Tîm: McGregor, John (Harris 65’), Connolly, Ecuele Mamga, Bennett, Bamba (Morrison 64’), Noone, Pilkington, Zohore

Cardiau Melyn: Bamba 48’, Connolly 82’, Halford 90’

.

Torf: 10,814