Gweilch 21–25 Stade Francais

Mae’r Gweilch allan o Gwpan Her Ewrop wedi iddynt golli yn erbyn pedwar dyn ar ddeg Stade Francais yn y rownd go-gynderfynol nos Sul.

Chwaraewyd y gêm yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd gan fod gan Glwb Pêl Droed Abertawe gêm ar y Liberty yn gynharach brynhawn Sul.

Chwaraeodd y Ffrancwyr yr hanner awr olaf gydag un dyn yn llai yn dilyn cerdyn coch Josaia Raisuqe ond wnaeth hynny ddim eu hatal rhag mynd ymlaen i ennill y gêm.

Stade Francais a Zurabi Zhvania a sgoriodd unig gais yr hanner cyntaf ond dau bwynt yn unig a oedd yn gwahanu’r ddau dîm ar yr egwyl diolch i ddwy gic gosb o droed Dan Biggar, 6-8 y sgôr wrth droi.

Rhoddodd cais Josh Matavesi’r Gweilch ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Raisuqe dderbyn ei gerdyn coch gydag ychydig llai na hanner awr yn weddill.

Roedd yr asgellwr braidd yn ffodus mai cerdyn melyn yn unig a welodd yn yr hanner cyntaf wedi iddo sathru ar Keelan Giles, ond doedd dim dianc cawod gynnar ar ôl derbyn ail felyn yn yr ail hanner.

Cafwyd ymateb da gan y Ffrancwyr serch hynny wrth i gais yr un gan Raphael Lakafia a Julien Arias roi un pwynt ar ddeg o fantais i’r ymwelwyr gyda chwarter y gêm yn weddill.

Gorffennodd y Gweilch yn gryf ond er i gais Tyler Ardron roi llygedyn o obaith iddynt bedwar munud o ddiwedd yr wyth deg, rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i Stade Francais ddal eu gafael.

.

Gweilch

Ceisiau: Josh Matavesi 47’, Tyler Ardron 76’

Trosiadau: Dan Biggar 76’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 13’, 33’, 53’

.

Stade Francais

Ceisiau: Zurabi Zhvania 30’, Raphael Lakafia 54’, Julien Arias 59’

Trosiadau: Jules Plisson 54’, 59’

Ciciau Cosb: Jules Plisson 28’, 44’

Cardiau Melyn: Josaia Raisuqe 20’, 52’

Cerdyn Coch: Josaia Raisuqe 52’