Abertawe 0–0 Middlesbrough

Cafodd Abertawe bwynt yn y frwydr tua gwaelod Uwch Gynghair Lloegr wrth i Middlesbrough ymweld â’r Liberty ddydd Sul.

Wedi hanner cyntaf gweddol, digon di fflach a oedd yr ail hanner a bu rhaid aros tan y munudau olaf am gyfleoedd da yn y ddau ben.

Anelodd Leroy Fer dros y trawst i Abertawe ym munud olaf y naw deg cyn i Rudy Gestede benio heibio’r postyn yn y pen arall yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae’r gêm gyfartal yn codi’r Elyrch bwynt yn glir o safleoedd y gwymp, ond mae buddugoliaethau i Crystal Palace a Hull yn golygu nad oedd hwn yn benwythnos gwych i’r Cymry.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson, Fer, Cork, Carroll, Narsingh, Ayew, Sigurdsson

Cardiau Melyn: Fer 16′, Mawson 58′

.

Middlesbrough

Tîm: Valdes, Barragan, Bernardo, Gibson, Fabio (Forshaw 65′), Clayton, de Roon, Traore, Downing, Ramirez (Gestede 39′), Negredo

Cardiau Melyn: Fabio 23′ Negredo 69′, Gestede 79′

.

Torf: 20,354