Mae’r dyfarnwr pêl-droed Anthony Taylor wedi dweud nad oedd ei benderfyniad i deithio dramor ar gyfer ei barti ceiliogod wedi effeithio ar ei berfformiad yn y gêm rhwng Abertawe a Burnley yn yr Uwch Gynghrair fis diwethaf.

Cafodd y dyfarnwr ei feirniadu am roi cic o’r smotyn i Burnley, er ei bod hi’n amlwg mai ymosodwr Burnley a Chymru, Sam Vokes oedd wedi llawio’r bêl, ac nid un o amddifynwyr Abertawe.

Ond fe ddywedodd, serch hynny, nad oes modd “amddiffyn” ei gamgymeriad ar y cae.

Roedd Anthony Taylor wedi bod ym Marbella ddechrau’r wythnos honno.

Ond ar raglen The Referees – Onside with Carragher & Neville ar Sky Sports heno, fe fydd e’n mynnu nad oedd y daith ar fai am y camgymeriad.

“Pan gafodd fy mharti ceiliogod ei drefnu, roedden ni wedi cynllunio i ddychwelyd mewn da bryd.

“Roeddwn i’n dal i hyfforddi tra ein bod ni’n gwneud hynny. Doedd y paratoadau ar gyfer y gêm ddim yn wahanol i’r arfer ar gyfer unrhyw gêm arall.”

‘Rhesymeg diffygiol’

Ond mae’n cyfaddef fod ei “resymeg yn ddiffygiol” wrth roi cic o’r smotyn i Burnley, ar ôl gweld y bêl yn taro braich chwaraewr.

“Roedd ymateb chwaraewyr Abertawe’n awgrymu bod rhywbeth o’i le.

“Y rheswm dw i’n edrych ar goll ac yn crwydro yw ’mod i’n trio siarad â ‘nghydweithwyr.

“Roedd yn anodd gyda chynifer o chwaraewyr o ‘nghwmpas i ac yn ceisio dylanwadu arna’i o’r ddwy ochr.

“Ond ry’ch chi’n ceisio gweld a oes yna wybodaeth i’ch gorfodi i newid eich penderfyniad.

“Mae’n bwysig bod ag elfen o onestrwydd wrth wneud hyn – allwch chi ddim amddiffyn yr hyn nad oes modd ei amddiffyn.

“I fi’n bersonol ac o safbwynt fy malchder personol, mae’n benderfyniad gwael iawn.”