Mae gôl gan yr amddiffynnwr Mickey Demetriou wedi cadw gobeithion Casnewydd o aros yn y Gynghrair Bêl-droed yn fyw.

Fe guron nhw Crawley o 1-0 ar gae Rodney Parade y prynhawn yma ar ôl i’r Saeson orffen y gêm gyda deg dyn.

Sgoriodd Mickey Demetriou ar ôl 18 munud i sicrhau eu bod nhw’n dod â rhediad o dair gêm heb fuddugoliaeth i ben.

Collodd y ddau dîm un chwaraewr yr un yn dilyn ffrwgwd rhwng Joss Labadie a Josh Yorwerth ar ôl 51 munud.

Mae Casnewydd bum pwynt i ffwrdd o godi allan o’r safleoedd disgyn.

Casnewydd: Day, O’Brien, Bennett, Demetriou, Pipe, Rose (Owen-Evans), Labadie, Butler, Rigg, Samuel (Nelson), Bird (Myrie-Williams)

Gôl: Demetriou (18)

Cerdyn melyn: Demetriou

Cerdyn coch: Labadie

Crawley: Morris, Young, McNerney, Yorwerth, Blackman, Smith, Payne (Henderson), Djalo (Cox), Boldewijn, Murphy (Harrold), Collins

Cerdiau melyn: Payne, Djalo, Boldewijn

Cerdyn coch: Yorwerth

Torf: 2,946