Mae cyn-golwr Cymru, John Phillips wedi marw’n 65 oed.

Enillodd e bedwar cap dros ei wlad.

Yn enedigol o Amwythig, dechreuodd ei yrfa gydag Aston Villa yn 1969 cyn symud i Chelsea ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Chwaraeodd e mewn 149 o gemau i’r clwb Llundeinig, gan ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr yn 1973.

Ond roedd e’n cael ei ddewis fel eilydd i Peter Bonetti yn bennaf.

Aeth ar fenthyg i Crewe Alexandra cyn symud i Brighton & Hove Albion yn 1980, ac fe chwaraeodd e hefyd i Charlton Athletic a Crystal Palace.

Ymunodd e ag Abertawe tra roedd John Toshack yn rheolwr, ond fe adawodd y clwb heb fod wedi chwarae’r un gêm.