Neil Taylor (Llun: Nick Potts/PA)
Mae “99% o chwaraewyr pêl-droed” wedi gwneud tacl debyg i’r un gan Neil Taylor oedd wedi torri coes Seamus Coleman, yn ôl y cyn-amddiffynnwr a dadansoddwr Sky Sports, Jamie Carragher.

Cafodd yr amddiffynnwr ei anfon o’r cae am y dacl flêr ar gapten Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn yn y gêm ragbrofol Cwpan y Byd nos Wener diwethaf.

Fe fu’n rhaid i Seamus Coleman gael llawdriniaeth ar yr anaf ar ôl y gêm a ddaeth i ben yn gyfartal ddi-sgôr.

Ond yn ôl Jamie Carragher, dydy’r fath dacl ddim yn anghyffredin yn y byd pêl-droed a bod mwy o sylw wedi’i roi i’r digwyddiad am fod yr anaf mor wael.

‘Dim byd gwell na thacl fawr’

Yn ei golofn yn y Daily Mail, dywedodd Jamie Carragher: “Mae’n rhywbeth ro’n i bob amser eisiau ei wneud.

“Hyd heddiw, dw i’n derbyn lluniau ar wefannau cymdeithasol o daclau ges i mewn gemau darbi yn erbyn Steven Pienaar a Phil Neville.

“Pan fo angen gosod y naws a’r dorf angen cael ei thanio, does dim byd gwell na thacl fawr, ysgytwol.

“Ry’n ni i gyd yn gytûn. Cofiwch am sylwadau Roy Keane cyn i Weriniaeth Iwerddon wynebu Cymru. Fe ddywedodd e ei fod e eisiau gweld ei chwaraewyr yn ’taro’ chwaraewyr Cymru.

“Ond eto, mae’n dangos pam fod y sylw ’dyw e ddim y math yna o chwaraewr’ yn nonsens. Mae pawb ‘y math yna o chwaraewr’. Byddwn i’n dweud bod 99% o chwaraewyr pêl-droed wedi gwneud tacl mor wael â Taylor – neu hyd yn oed yn waeth – rywbryd yn ystod eu gyrfa. Roedden nhw jyst yn lwcus na chafodd esgyrn eu torri.”

Disgyblu

Mae disgwyl i Seamus Coleman fod allan am gryn amser, a fydd e ddim ar gael ar gyfer y gêm ddarbi fawr yng Nglannau Mersi y prynhawn yma.

Mae FIFA wedi dechrau camau disgyblu yn erbyn Neil Taylor, ac mae’n bosib y bydd ei waharddiad o un gêm ryngwladol yn cael ei ymestyn.

Mae ei reolwr yn Aston Villa, Steve Bruce wedi dweud bod ymchwiliad FIFA yn “eithafol”.