Chwaraewyr Clwb Pêl-droed Caernarfon (Llun: Paul Evans)
Yfory fe fydd pedwar tîm yn brwydro am le yn ffeinal Cwpan Cymru, gêm fydd yn cael ei chynnal ym Mangor ar ddydd Sul Ebrill 30.

Yn cwrdd yn Nantporth, Bangor, ar gyfer y gyntaf o ddwy gêm gynderfynol yfory fydd dau dîm o’r Uwch Gynghrair, Cei Connah a’r Seintiau Newydd.

Yna yn hwyrach yn y p’nawn yn y Rhyl bydd Caernarfon  o Gynghrair Huws Gray yn herio’r Bala o’r Uwch Gynghrair – ac mae’r gêm honno yn fyw ar Sgorio.

Bydd y Cofi s yn gwybod bod dipyn o her o’u blaenau. Ond maen nhw eisoes wedi trechu clybiau Caerfyrddin a’r Rhyl o’r Uwch Gynghrair ar eu ffordd i’r rownd gynderfynol. Felly mi fyddan nhw yn hyderus o greu hanes, ac mae disgwyl i gannoedd heidio o Gaernarfon i gae Belle Vue yn y Rhyl.

“Mae wedi bod yn wythnos wahanol yn arwain at y gêm gyda chamerâu Sgorio yn dod i’r sesiwn ymarfer a’r holl sylw gan bawb, oherwydd bod y clwb ddim yn yr Uwch Gynghrair rydan ddim wedi arfer,” meddai Paul Evans, Swyddog y Wasg Clwb Pêl-droed Caernarfon.

“Wrth gerdded y stryd amser cinio mae nifer o bobl yn dymuno pobl lwc i’r clwb, ac mae ysgolion y dref a’r dalgylch wedi bod yn tynnu lluniau gyda baneri ac anfon negeseuon. Mae’n amlwg mai clwb cymunedol ydan ni ac mae hynny i lawr i waith caled ein chwaraewr Nathan Craig  ac Iwan Williams y rheolwr. Mae’n rhaid cofio saith mlynedd yn ôl oedd trafferthion mawr gan y clwb – rydan ni wedi dod yn bell gyda chymorth nifer o bobl.

“Ar y cae rydan ni yn chwarae’n dda unwaith eto, a heb os rydan yn gobeithio creu sioc – yn sicr mae Bala yn dîm da ond curo’r gwpan ydy’r nod i ni.

“Mae’n bechod a siom i ni fel clwb bod Iwan [Williams] wedi ei wahardd o’r ystlys, ond mi fydd wedi paratoi’r tîm yn gywir trwy’r wythnos, a gyda thua 600-700 o Gofis wedi teithio lawr yr A55 bydd cefnogaeth wych yno.”

Y Bala yn disgwyl “gêm galed”

Dyma’r pedwerydd tro i’r Bala fod yn y rownd gynderfynol Cwpan Cymru mewn saith mlynedd, ac mae’r Prif Weithredwr, Nigel Aykroyd, yn gobeithio mai tro hyn bydd yr hogiau o Faes Tegid yn mynd yr holl ford ac ennill y gwpan.

“Mae’n uchelgais i mi ac i’r rheolwr Colin Caton, mae’r tair colled ynghynt wedi brifo, bydd torf enfawr o Gaernarfon ac rydan ni yn disgwyl gêm galed, yn amlwg bydd rhaid i ni chwarae i’n  potensial a dangos bod tîm o’r Uwch Gynghrair yn gallu curo tîm ymroddedig o’r Cymru Alliance.”

Caernarfon v Bala yn fyw ar Sgorio yfory, y gic gyntaf am 5.15 yr hwyr.

Ceisio cyrraedd ffeinal ers 1998

Yfory fe fydd Cei Connah yn herio’r Seintiau Newydd am y chweched tro’r tymor hwn. Cei Connah enillodd y gêm ddiwethaf 2-1. Maen nhw yn ceisio cyrraedd eu ffeinal cyntaf ers 1998 lle wnaethon nhw golli i Fangor, a hynny ar giciau o’r smotyn.

“Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r clwb yn edrych ymlaen,” meddai Andy Morrison, rheolwr Cei Connah.

“Rydan ni’n gwybod pe bai ni’n gwneud bob dim yn iawn, yn ddisgybledig pan heb feddiant a chymryd ein cyfleon, gallen ni guro nhw.  Rydan ni mewn tipyn o hwyl ar hyn o bryd ac yn chwarae’n dda. Y peth caletaf i mi fydd dewis y tîm achos mae cymaint o’r chwaraewr ar dân.”

Mae’r Seintiau’n ceisio cipio Cwpan Cymru am y bedwaredd waith yn olynol.

Dywedodd y rheolwr, Craig Harrison; “Mae’n mynd i fod yn gêm galed iawn. Mae yna le yn y ffeinal i’r enillydd – mae hi yn gwpan rydan ni yn gymryd o ddifrif.”