Portsmouth 2–1 Casnewydd       
                                                   

Mae Casnewydd mewn trafferthion tua gwaelod yr Ail Adran o hyd wedi iddynt golli oddi cartref yn erbyn Portsmouth ar Fratton Park brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Kyle Bennett a Kal Naismith y tîm cartref ddwy ar y blaen ac nid oedd gôl Alex Samuel yn ddigon i Gasnewydd achub dim o’r gêm.

Tri munud o’r hanner cyntaf a oedd ar ôl pwn rwydodd Bennett yn dilyn pas dreiddgar Carl Baker.

Dyblodd Naismith y fantais toc cyn yr awr gyda pheniad o groesiad Connor Chaplin.

Tynodd Samuel un yn ôl gyda pheniad o groesiad Sean Rigg ddeunaw munud o’r diwedd ond daliodd Pompey eu gafael ar y tri phwynt.

Mae’r canlyniad yn gadael yr Alltudion yn ail o waelod yr Ail Adran, chwe phwynt i ffwrdd o ddioglewch yr ail safle ar hugain gyda saith gêm yn weddill.

.

Portsmouth

Tîm: Forde, Evans, Davies, Clarke, Stevenc, Rose, Doyle, Baker, Naismith (Whatmough 83’), Bennett (Lowe 71’), Doyle (Chaplin 25’)

Goliau: Bennett 42’, Naismith 59’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pupem Jones (Randall 71’), Demetriou, Bennett, Butler, Labadie, Owen Evans (Myrie-Williams 45’), Rigg, Bird (Jackson 45’), Samuel

Gôl: Samuel 77’

Cardiau Melyn: Rigg 52’, Labadie 69’, Myrie-Williams 89’

.

Torf: 17,364