Sian Thomas - a'i baner - yn barod
Bydd awyrennau a llongau yn llawn dop o gefnogwyr Cymru dros y dyddiau nesaf yn barod am y gêm fawr yn Stadiwm Aviva nos Wener (Mawrth 24) rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Chymru.

Gydag ond 2,300 o docynnau ar gael i’r cefnogwyr bydd nifer yn mynychu tai tafarnau Dulyn i wylio’r gêm. Mae’n rhaid i Gymru ennill er mwyn gorffen ar frig Grŵp D yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd Rwsia 2018.

Mae llongau o Gaergybi i Ddulyn yn llawn o ddydd Iau i ddydd Sul, ac mae’r llawer o gefnogwyr o’r gogledd yn hedfan o Lerpwl neu Fanceinion. Mae nifer o gefnogwr y de yn hedfan o Gaerdydd a Brystr, neu’n hwylio o Abergwaun.

Elin Thomas

Gyda gemau eraill oddi cartref yn erbyn Serbia, Moldova a Georgia i ddilyn, mae’r ymgyrch hon wedi bod yn straen ar bocedi’r cefnogwyr yn enwedig ar ôl y profiad annisgwyl yn Ffrainc haf diwethaf

Ond i gefnogwraig fel Elin Thomas, yn wreiddiol o Dal-y-bont ger Harlech ond sydd nawr yn byw yng Nghaerdydd, mae’n edrych ymlaen am y trip. “Dw i’n hedfan o Luton gyda chefnogwyr Caerdydd, oedd hi’n rhatach i hedfan o fanno.

“Mae’n anodd proffwydo’r canlyniad, mae’n bosib y bydd Iwerddon yn chwarae am gêm gyfartal oherwydd eu holl anafiadau. Mae’n bechod bod Tom Lawrence allan i ni, dw i’m yn meddwl y buasai wedi dechrau’r gêm, ond efo’i gyflymder, mi fuasai wedi bod yn opsiwn da i ddod oddi ar y fainc.

“Fydd hi ddim yn ddiwedd y byd pe bai Cymru ddim yn ennill,” meddai wedyn, “ond mi fyddai hynny’n gwneud pethau’n anodd iawn i ni wedyn gyda gemau anodd oddi cartref i ddod.

“Hefyd ar ôl y daith hon, dw i’n edrych ymlaen am y tripiau sydd ar ôl oherwydd maen nhw’n wledydd diddorol i ymweld â nhw.”

Dewi Prysor

Mae’r awdur, Dewi Prysor, yn un arall sydd wedi bod yn ffodus i gael tocyn i’r gêm nos Wener.

“Ddeg mlynedd union yn ôl, oeddan ni’n sefyll ar deras eiconig Hill 16 yn Croke Park, yn gwylio Cymru’n colli i unig gôl y gêm gan Stephen Ireland.

“Y tro yma rydan ni yn Stadiwm Aviva a dw i’n gobeithio am ganlyniad gwell i fynd efo’r newid lleoliad. Y Gwyddelod ydi’r ffefrynnau, ond mae gen i deimlad ein bod ni’n mynd i roi sioc iddyn nhw.

“Bydd ennill yn coroni be ddylai fod yn drip da. Wnes i fethu mynd i Fienna, felly hwn ydi’r trip oddi cartra’ cyntaf ers antur fawr yr Ewros yn Ffrainc, a dw i’n edrych ymlaen at brofi’r buzz unwaith eto.

“Mae dilyn tîm pêl-droed Cymru fel cyffur,” meddai Dewi Prysor. “Dwy noson fydd y daith yma, dydd Iau tan ddydd Sadwrn, yn teithio ar y trên o Gyffordd Llandudno a chwch o Gaergybi. Dim awyren tro yma, a dim byd mor hectic â’r mis yn Ffrainc!”

Sian Thomas

Mae Sian Thomas, o Ben Llyn, yn gefnogwr brwd ac mae hithau wedi cynhyrfu am y daith.

“Wel, mae’r bag wedi’i bacio ers dydd Llun,” meddai wrth golwg360, “er na bora Gwener dw i’n croesi’r Môr Celtaidd, dyna faint dw i’n edrych ymlaen i fynd i Ddulyn!

“Mae’n edrych yn amser hir yn ôl wan ers oedd pawb yn Fienna. Mi fydd dydd Gwener yn ddiwrnod hir ond rydan ni, gefnogwyr pêl-droed wedi hen arfer wneud pethau gwirion – mae rhai pobol meddwl bod ni ddim yn gall!

“Fyddai angen codi chwech yn fore i fod ym Mhwllheli erbyn 6-45 i gael lifft efo’r hogiau. Yna awe am Gaergybi i ddal y fferi am 8.55. Dw i’n gwybod am lwythi sy’n mynd heb dicedi er mai’n agosach i ni’r Gogs fynd i Ddulyn na Gaerdydd, dydi.

“Mae’n rhaid i’r hogiau fynd amdani nos Wener rydan ni wirioneddol angen y tri phwynt i ddal  ceffylau blaen  y grŵp, ac i gadw’r freuddwyd o fynd i Rwsia o fewn gafael. Mi Fydd hi’n gêm galed, ac mi fydd y Gwyddelod yn hacio Bale yn rhacs i drio ei rwystro rhag gwneud ei hud a lledrith.

“Gobeithio mai ni’r Cymry fydd yn dathlu nos Wener ac yn peintio Dulyn yn goch,” meddai.

“P’nawn Sul mae criw ni’n dod adra ac ond gobeithio bydd yr hogiau di cofio troi cloc a ddim yn methu’r fferi!!!!  Beth bynnag di’r canlyniad curo, cyfartal neu golli mae’r trip i Serbia yn fis Mehefin wedi ei sortio yn barod. Gorau chwarae cyd chwarae – Cymru am Byth.”