Barrow 1–1 Wrecsam     
                                                                   

Cipiodd Barrow bwynt gyda gôl hwyr wrth iddynt groesawu Wrecsam i Holker Street yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr nos Fawrth.

Roedd y Dreigiau yn meddwl eu bod wedi ennill y gêm gyda gôl yn y trydydd munud o amser a ganiateir am anafiadau ond roedd digon o amser ar ôl i Moussa Diarra gipio pwynt i Barrow.

Wedi dros naw deg munud di sgôr fe roddodd Paul Rutherford yr ymwelwyr o ogledd Cymru ar y blaen. Ond wnaeth y tîm cartref ddim rhoi’r ffidl yn y to ac fe sgoriodd Diarra yn y chweched munud o amser brifo i sicrhau gêm gyfartal i’w dîm.

Mae’r canlyniad yn cadw Wrecsam yn ddedfed yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.

.

Barrow

Tîm: Flatt, Beeley, Wilmer-Anderton, Harvey, Diarra, Livesey, Hughes, Turnbull, Tuton, Bennett (Effiong 62’), Meikle (Wright 74’)

Gôl: Diarra 90+6’

Cerdyn Melyn: Turnbull 90+2’

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Jennings, Riley, Evans, Smith, Tilt (Carrington 80’), Barry (Rutherford 74’), Marx, Shenton, White, Massanka (Harry 90’)

Gôl: Rutherford 90+3’

Cerdyn Melyn: Tilt 23’

.

Torf: 1,009