Casnewydd 1–1 Luton           
                                                           

Cafodd Casnewydd bwynt da wrth i Luton ymweld â Rodney Parade yn yr Ail Adran nos Fawrth.

Symudodd yr Alltudion o fewn chwe phwynt at ddigelwch gyda phwynt yn erbyn y tîm sydd yn bumed yn y tabl, a hynny er gwaethaf y ffaith iddynt orffen y gêm gyda deg dyn.

Aeth Luton ar y blaen wedi dim ond pum munud pan sgoriodd Danny Hylton o’r smotyn yn dilyn trosedd arno yn y cwrt cosbi gan Sid Nelson.

Roedd Casnewydd yn gyfartal cyn yr egwyl serch hynny diolch i gic rydd gywrain Sean Rigg.

Chwaraeodd y tîm cartref ddeg munud olaf y gêm gyda deg dyn yn dilyn ail gerdyn melyn a cherdyn coch i Mark O’Brien.

Ond daliodd yr Alltudion eu gafal ar y pwynt, ac er eu bod yn aros yn safleoedd y gwymp maent bwynt yn nes at Cheltenham yn yr ail safle ar hugain.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Nelson (Owen-Evans 56’), Jones, O’Brien, Pipe, Bennett, Labadie, Butler, Rigg, Bird (Jackson 84’), Samuel

Gôl: Rigg 28’

Cardiau Melyn: Rigg 48’, O’Brien 66’, 81’ Labadie 80’, Pipe 89’

Cerdyn Coch: O’Brien 81’

.

Luton

Tîm: Macey, O’Donnell, Mullins (Lee 67’), Cuthbert, Rea, Sheehan, Cook (Marriott 77’), Ruddock, Vassell, Hylton (Justin 45’), Palmer

Gôl: Hylton [c.o.s.] 5’

.

Torf: 2,304