Tom Lawrence (Llun: David Davies/PA)
Ni fydd yr ymosodwr Tom Lawrence, 23 oed, yn rhan o’r garfan i herio Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn nos Wener oherwydd anaf.

Mae Tom Lawrence, 23, sydd ar fenthyg i Ipswich, wedi bod ar dân y tymor hwn gan sgorio 11 gôl yn ei 33 ymddangosiad. Fe fydd Harry Wilson, 19, yn cymryd ei le.

Mi chwaraeodd Gareth Bale ddydd Sadwrn i Real Madrid yn erbyn Athletic Bilbao. Yn ôl adroddiadau o Sbaen gêm ddistaw gafodd y meistr. Dim ond chwe gêm mae o wedi’u chwarae ers mis Tachwedd, a’r gobaith yw mai i Gymru nos Wener bydd yn serennu.

Mae Aaron Ramsey fel ei dîm, Arsenal, o dan y lach am ei berfformiadau, llawer o’r pundits yn eu beirniadu’n hallt. Ond un chwaraewr sydd heb gael llawer o gyfle’r tymor hwn ydi ffefryn cefnogwyr Cymru, Hal Robson-Kanu, a gafodd ei gyfle eto ddydd Sadwrn mewn buddugoliaeth wych yn erbyn Arsenal. Fe sgoriodd ar ôl dod ymlaen fel eilydd ar ôl munud… tybed a ydyw wedi gwneud digon i ddechrau nos Wener?

Roedd Wayne Hennessey yn gôl i Crystal Palace yn erbyn Watford, enillodd Palace 1-0, ond doedd ddim lle i Joe Ledley yn y garfan o gwbl.

Fe chwaraeodd Joe Allen gêm gyfan i Stoke yn erbyn y ceffylau blaen Chelsea, gêm galed iawn oedd hi ar Stadiwm bet365. Roedd Andy King a James Collins ar y fainc i Gaerlŷr a West  Ham, a Sam Vokes i Burnley – chwaraeodd Vokes y 25 munud olaf yn y gêm di-sgôr yn Sunderland.

Enillodd  Everton, tîm capten Cymru Ashley Williams, 4-0 yn erbyn Hull, cerdyn melyn  i Williams ond dim anaf – bydd yn ennill ei 70ain cap nos Wener.

Roedd Ben Davies wedi chwarae gêm lawn i Spurs yn erbyn Southampton ac roedd y glaslanc Ben Woodburn ar y fainc i Lerpwl yn erbyn Man City.

Chris Gunter ar fin ennill cap rhif 78?

Yn y bencampwriaeth sgoriodd James Chester i Aston Villa yn Wigan, chwaraeodd Neil Taylor i Villa a  Shaun MacDonald i Wigan.

Ildiodd Danny Ward bedair gôl i Huddersfield nos Wener yn erbyn Bristol City. Un o chwaraewyr mwyaf cyson y bencampwriaeth ydy Dave Edwards i Wolves, a sgoriodd ei ddegfed gôl  o’r tymor yn erbyn Fulham oddi gartref, enillodd Wolves 1-3.

Mae Emyr Huws yn dioddef  o anaf felly mae wedi methu allan, ac roedd Jazz Richads yn nhîm Caerdydd a enillodd 3-1.

Chwaraeodd Chris Gunter gêm lawn i Reading mewn buddugoliaeth allweddol nos Wener yn Sheffield Wednesday, pe bai’n dechrau yn Nulyn bydd yn mynd yn gyfartal mewn ymddangosiadau a Craig Bellamy yn ennill cap rhif 78.

Trydydd yn Grŵp D

Roedd Tom Bradshaw yn un o dri Chymro oedd yn nhîm Barnsley ddoe yn Norwich. Colli 2-0 wnaethon nhw, mae Marley Watkins sydd ag wyth gôl tymor hyn yn barod i ymuno â’r garfan pe bai anaf, a chwaraeodd Gethin Jones gêm lawn.

Enillodd MK Dons 1-0 yn erbyn Coventry ond cafodd y gŵr o Gaerdydd, Joe Walsh, gerdyn melyn, tydi Walsh heb chware i Gymru eto. Ac fe ildiodd Owain Fôn Williams gôl yn y gêm yn erbyn Ross County i Inverness CT hefyd.

Mae Cymru ar hyn o bryd yn drydedd yn grŵp D, dau bwynt tu ôl i Serbia eu gwrthwynebwyr  mis Mehefin a phedwar tu ôl Iwerddon, sydd ar frig y grŵp.