Casnewydd 1–3 Blackpool
                                                              

Rhoddwyd cnoc i obeithion Casnewydd o aros yn yr Ail Adran wrth iddynt golli gartref yn erbyn Blackpool brynhawn Sadwrn.

Roedd dwy fuddugoliaeth yn eu dwy gêm ddiwethaf wedi rhoi llygedyn o obaith i’r Alltudion ond daeth eu rhediad da diweddar i ben wrth i’r Tangerines ymweld â Rodney Parade.

Crymanodd Bright Osayi-Samuel yr ymwelwyr ar y blaen o fewn y chwarter awr cyntaf ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Dyblodd Mark Cullen y fantais o’r smotyn hanner ffordd trwy’r ail hanner wedi trosedd Mickey Demetriou ar Osayi-Samuel.

Rhoddodd gôl Alex Samuel lygedyn o obaith i’r tîm cartref wedi hynny, ond wrth i’r Alltudion yrru’r gôl-geidwad, Joe Day, i ben arall y cae i chwilio am ail gôl yn yr eiliadau olaf fe wrthymosododd Blackpool gan sicrhau’r tri phwynt gydag ail gôl Osayi-Samuel.

Mae Casnewydd yn aros yn y trydydd safle ar hugain er gwaethaf y golled ond mae ganddynt bellach un gêm yn llai i ddianc o safleoedd y gwymp.

.

Casnewydd

Tîm: Day, O’Brien, Nelson (Barnum-Bobb 45’), Bennett, Pipe, Labadie (Demetriou 41’), Owen-Evans (Gordon 77’), Rigg, Butler, Samuel, Bird

Gôl: Samuel 74’

Cardiau Melyn: Bennett 23’, Pipe 59’, Butler 90+2’

.

Blackpool

Tîm: Lyness, Mellor, Aldred, Robertson, Daniel, Danns (Black 80’), Flores (Aimson 90+1’), Payne, Delfouneso, Cullen (Matt 73’), Osayi-Samuel

Goliau: Osayi-Samuel 16’, 90+5’, Cullen [c.o.s.] 68’

Cerdyn Melyn: Osayi-Samuel 90+2’

.

Torf: 2,427