Mae hyfforddwr y don nesaf o sêr pêl-droed Cymru “yn llawn syniadau” yn ôl y sylwebydd pêl-droed Malcolm Allen.

Fe chwaraeodd Robert Page 41 o weithiau i Gymru a bu yn gapten ar Watford yn Uwch Gynghrair Cymru.

Y cyn-amddiffynnwr rhyngwladol 42 oed yw hyfforddwr tîm dan 21 newydd Cymru, yn olynu Geraint Williams. Mi fydd hefyd yn gyfrifol am dimau dan 17 a than 19  y wlad.

Fe gafodd Robert Page gytundeb o bedair blynedd gan FA Cymru’r wythnos hon, ac yn ôl cyn-ymosodwr Cymru mi fydd yn rhoi ei stamp ei hun ar y swydd.

“Mae ganddo lawer o brofiad a pharch yn y gêm,” meddai Malcolm Allen. “Gerddodd o fewn i swydd hyfforddwr gyda [Nottingham] Forest yn syth – mae hynny’n dangos ei safle yn y gêm.

“Yn sicr bydd yn llawn syniadau a’i waith fydd datblygu’r chwaraewyr o bob oedran i garfan Chris Coleman. Mae Tyler Roberts, Nathan Broadhead, Ben Wodburn a Harry Wilson yn y tîm dan 19, mae’r rhain yn grŵp da o chwaraewyr fel oedd Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen yn eu hamser.

“A’r gobaith yw y byddan nhw yn llenwi eu potensial. Rwy’n gobeithio y  bydd Robert Page yn teithio ledled Cymru i weld y dalent sydd gennym ni.”