Chris Coleman (Llun: PA)
Mae Chris Coleman wedi enwi’r garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar Fawrth 24… a does yna ddim lle i Emyr Huws.

Mae seren ifanc Lerpwl, Ben Woodburn, wedi ei gynnwys, ac mae siawns y gallai Joe Walsh gael ei gêm gynta’ dros ei wlad.

Ac er bod Aaron Ramsey a Gareth Bale wedi diodde’ o anafiadau yn ddiweddar, mae’r ddau yn sicr iawn o’u lle yn y garfan.

Y garfan

Golwyr: Wayne Hennessey, Danny Ward, Owain Fôn Williams

Amddifynwyr: Ben Davies, James Chester, James Collins, Joe Walsh, Chris Gunter, Jazz Richards, Neil Taylor, Ashley Williams

Canol cae: Joe Allen, David Edwards, Andy King, Tom Lawrence, Joe Ledley, Shaun MacDonald, Aaron Ramsey

Ymosodwyr: Gareth Bale, Hal Robson-Kanu, Tom Bradshaw, Sam Vokes, Ben Woodburn.