Met Caerdydd v Dinas Caerdydd (Llun: Cymdeithas Bel-droed Cymru)
Fe fydd Merched Met Caerdydd yn cwrdd â Merched Abertawe yn rownd derfynol Cwpan Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar Ebrill 9.

Fe gafodd Merched Met Caerdydd fuddugoliaeth gyfforddus 5-0 yn erbyn Merched Clwb Dinas Caerdydd ar gae Cambrian a Chlydach, gyda Chloe O’Connor yn sgorio tair gôl.

Rebecca Mathias a Jassie Vasconcelos rwydodd y goliau eraill.

Abertawe ar dân yn erbyn Llandudno

Mi wnaeth merched Abertawe hefyd sgorio pum gôl yn y rownd gyn-derfynol, a hynny’n erbyn eu gwrthwynebwyr o’r gogledd, Llandudno, ar gae Y Drenewydd.

Fe lwyddodd Jodie Passmore i sgorio tair gôl; gyda Katy Hosford a Katie Davies yn sgorio’r ddwy arall tros Abertawe. Fe lwyddodd Llandudno i sgorio un gôl gysur cyn diwedd y gêm.