a
Aaron Ramsey (Llun: golwg360)
Mae cyrraedd Wembley yn “hwb mawr” i Arsenal ar ddiwedd wythnos siomedig i’r clwb, yn ôl y Cymro Aaron Ramsey.

Cyrhaeddodd y Gunners rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr ar ôl curo Lincoln o 5-0.

Ond daeth eu buddugoliaeth ar ddiwedd wythnos pan aethon nhw allan o Gynghrair y Pencampwyr ar ôl colli yn erbyn Bayern Munich o 10-2 dros y ddau gymal, ac maen nhw wedi colli tir yn y ras am dlws Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl colli yn erbyn Lerpwl.

Cyn y gêm yn erbyn Lincoln, roedd Arsenal wedi colli pump allan o’u saith gêm blaenorol.

Sgoriodd Aaron Ramsey ei ail gôl y tymor hwn wrth i Arsenal sicrhau eu lle yn y rownd gyn-derfynol.

“Wrth gwrs ei fod e’n hwb mawr,” meddai Aaron Ramsey.

“Ry’n ni’n siomedig ein bod ni allan o Gynghrair y Pencampwyr ond dw i’n caru’r gystadleuaeth hon [Cwpan FA Lloegr].

“Dw i wrth fy modd o gael mynd yn ôl i Wembley a gobeithio y gallwn ni gael rhywbeth i edrych ymlaen ato a dychwelyd yno ar gyfer y ffeinal.

“Ry’n ni wrth ein bodd fod gyda ni daith arall i Wembley.”