Hull 2–1 Abertawe        
                                                                     

Sgoriodd Oumar Niasse ddwy gôl mewn deg munud wrth i Hull drechu Abertawe yn Stadiwm KCOM brynhawn Sadwrn.

Tri phwynt yn unig sydd bellach yn gwahanu’r ddau dîm tua gwaelodion Uwch Gynghrair Lloegr wedi i goliau’r eilydd gipio’r tri phwynt i’r tîm cartref.

Abertawe a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ond roedd pethau’n anoddach iddynt yn yr ail hanner wedi i Fernando Llorente orfod gadael y cae gydag anaf.

Dechreuodd y tîm cartref ddod fwyfwy i’r gêm wedi hynny ac aethant ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner pan rwydodd yr eilydd, Niasse, yn dilyn pas dreiddgar Abel Hernandez.

Dyblodd y gŵr o Senegal y fantais naw munud yn ddiweddarach yn dilyn gwaith creu eilydd arall, Ahmed Elmohamady.

Tynodd Alfie Mawson un yn ôl i’r Elyrch gyda pheniad o groesiad Gylfi Sigurdsson yn yr amser a ganiateir ama anafiadau ar ddiwedd y gêm ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi.

Mae’r tîm o Gymru yn aros yn yr unfed safle ar bymtheg yn y tabl er gwaethaf y golled ond dim ond tri phwynt sydd bellach yn eu gwahanu a safleoedd y gwymp.

.

Hull

Tîm: Jakupovic, Elabdellaoui, Ranocchia, Maguire, Robertson, Huddlestone, Markovic (Elmohamady 75’), N’Diaye (Niasse 63’), Clucas, Grosicki, Hernandez (Meyler 82’)

Goliau: Niasse 69’, 78’

Cardiau Melyn: N’Diaye 45’, Huddlestone 56’, Markovic 73’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel (Amat 33’), Fernandez, Mawson, Olsson, Fer, Cork, Carroll, Routledge (Narsingh 71’), Llorente (Ayew 45’), Sigurdsson

Gôl: Mawson 90+1’

Cerdyn Melyn: Olsson 45’

.

Torf: 19,195