Paul Clement (llun: Golwg360)
Mae’r pwysau ar dîm pêl-droed Hull y prynhawn yma (3pm), yn ôl prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement, sy’n dychwelyd i’r cae lle arweiniodd yr Elyrch am y tro cyntaf ym mis Ionawr.

Ar Ionawr 7, collodd yr Elyrch o 2-0 o dan Paul Clement wrth iddyn nhw deithio i Stadiwm KC ar gyfer trydedd rownd Cwpan FA Lloegr.

Ond mae disgwyl i’r gêm fod ychydig yn wahanol y prynhawn yma yn dilyn gwelliant yng nghanlyniadau a pherfformiadau’r Elyrch dros yr wythnosau diwethaf.

Ac mae Paul Clement yn mynnu mai Hull, ac nid Abertawe, sydd dan bwysau i ennill.

“Maen nhw gartref, chwe phwynt y tu ôl i ni. Rhaid i hynny fod o fantais i ni, a rhaid i ni fod yn dactegol gywir a pheidio â chael ein synnu wrth i’r gêm fynd yn ei blaen.

“Ry’n ni’n amlwg mewn safle mwy manteisiol na nhw. Fyddai pwynt ddim yn ganlyniad gwael, ond ry’n ni’n mynd am y fuddugoliaeth oherwydd byddai cipio’r triphwynt yn gam enfawr unwaith eto.

“Yn seicolegol, fe allai fod yn benwythnos mawr iawn i ni ac i’r timau o’n cwmpas ni.”

Pe bai Abertawe’n ennill a Bournemouth, yr unig dîm o’u cwmpas sy’n chwarae’r penwythnos hwn, yn colli, yna fe fyddai Abertawe’n codi i bedwerydd ar ddeg yn y tabl.

Yn y cyfamser, bydd Hull yn aros yn y tri safle isaf yn y tabl hyd yn oed os ydyn nhw’n ennill.

Marco Silva

O gymharu canlyniadau Abertawe o dan Paul Clement a Hull o dan Marco Silva ers Ionawr 7, mae’n amlwg mai Paul Clement sydd wedi cael y deufis mwyaf llwyddiannus.

Mae Abertawe wedi ennill pedair a cholli tair o dan Paul Clement, tra bod Hull o dan Marco Silva wedi ennill dwy, colli tair a chael dwy gêm gyfartal.

Dydy canlyniadau Hull yn sicr ddim yn egluro pam fod eu rheolwr yn cael ei ddisgrifio fel “mini Mourinho”.

Ychwanegodd Paul Clement: “Dw i ddim yn siwr pam fod pobol yn dweud hynny.

“I fi, mae e’n edrych yn ddyn unigryw iawn, ond yn amlwg maen nhw’n dod o’r un wlad [Portiwgal].

“Mae’r hyn mae e wedi gwneud gyda’r tîm yn beth braf, dw i’n hoffi’r ffordd maen nhw’n chwarae.

“Dw i’n credu ei fod e wedi gwneud yn dda mewn cyfnod cymharol fyr.”

‘Despret’

Mae Paul Clement yn gwadu y bydd Hull yn “ddespret” am fuddugoliaeth.

“Dw i ddim yn siŵr am hynny ond fe fyddan nhw’n gwthio er mwyn sgorio a symud ymlaen.

“Dw i’n credu y byddan nhw wedi paratoi’n dda, fyddwn ni ddim yn gweld hynny o’r funud gyntaf ond byddan nhw’n trafod pwysigrwydd ennill y gêm hon.”

O edrych yn ôl ar y gêm flaenorol yn erbyn Hull ym mis Ionawr, mae Paul Clement yn disgwyl tîm a pherfformiad gwahanol gan y ddau dîm heddiw.

“Ry’n ni wedi cael mwy o oriau o ymarfer, mwy o wybodaeth am y system, beth i’w wneud wrth ymosod ac wrth amddiffyn, mwy o gydweithio, mwy o hyder. Ond dyna sydd gan Hull hefyd.

“Efallai nad yw eu canlyniadau wedi dangos hyn, ond mae eu perfformiadau wedi bod yn dda ac mi fydd yn gêm anodd.”

Y timau

Mae Kyle Naughton wedi anafu llinyn y gâr ac felly, mae disgwyl i’r cefnwr de profiadol, Angel Rangel gymryd ei le.

Ond mae’r asgellwr chwith Jefferson Montero a’r chwaraewr canol cae Ki Sung-yueng yn holliach ar ôl anafiadau.

O safbwynt Hull, mae Curtis Davies wedi gwella o anaf i linyn y gâr ac fe allai ddechrau yng nghanol yr amddiffyn.

Ond mae’r chwaraewr canol cae ymosodol, Evandro wedi anafu o hyd.