I reolwr Manchester City, Pep Guardiola mae’r diolch am lwyddiannau amddiffynnol tîm pêl-droed Abertawe dros y deufis diwethaf, yn ôl y prif hyfforddwr Paul Clement.

Ers i’r Sais gael ei benodi ddechrau’r flwyddyn, dydy’r Elyrch ddim wedi ildio’r un gôl o gic rydd lydan neu gornel.

Roedd yr Elyrch o dan Bob Bradley a Francesco Guidolin yn cael eu beirniadu’n gyson am ddiffyg disgyblaeth o’r chwarae gosod, ac fe gostiodd camgymeriadau lu yn ddrud iddyn nhw ar ddechrau’r tymor wrth iddyn nhw lithro i waelod y tabl erbyn y Nadolig.

Y gyfrinach, yn ôl Paul Clement, yw’r penderfyniad i newid o gysgodi un-i-un i gysgodi cylchfaol, a hynny ar ôl iddo weld y dull yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol gan Pep Guardiola, cyn-reolwr Bayern Munich, lle treuliodd Paul Clement gyfnod yn is-reolwr o dan Carlo Ancelotti.

“Pan es i i Bayern Munich, do’n i erioed wedi defnyddio marcio cylchfaol, a phan es i a Carlo yno, roedden nhw wedi bod yn ei ddefnyddio fe o dan Guardiola ac wedi bod yn llwyddiannus.

“Felly roedd rhaid i ni benderfynu a oedden ni’n mynd i wneud yr hyn roedden ni wedi ei wneud gyda chlybiau eraill neu gadw at yr hyn roedden nhw wedi bod yn ei wneud ac wedi dod i arfer â’i wneud.”

Ychwanegodd fod y profiad o ddefnyddio’r dull yn yr Almaen wedi rhoi’r hyder iddo fe roi cynnig arno fe unwaith eto yn Abertawe.

“Tan i fi adael [Bayern Munich], roedden ni ond wedi ildio o un gic rydd yn erbyn Rostov. Dyna’r unig chwarae gosod y gwnaethon ni ildio oddi arno fe.”