Cassia Pike (Llun: Cymdeithas Bel-droed Cymru)
Mae merch o Borthmadog sy’n chwarae i Lerpwl wedi cael ei dewis i garfan Merched Cymru dan-17, ac mae hi ai theulu wrth eu bodd.

Fef ddechreuodd Cassia Pike, 16, chwarae pêl-droed yn ifanc iawn, ond pan oedd hi’n naw oed fe fu’n rhaid iddi roi’r gorau i chwarae’n erbyn bechgyn oherwydd rheolau’r gêm.

Fe ysgrifennodd at nifer o glybiau merched am dreial, ac fe gynigiodd Lerpwl un iddi. Mis o dreial oedd o i fod, ond roedd Lerpwl wedi gweld digon mewn pythefnos nes i’r ferch o Port gael cynnig cytundeb.

Ers hynny, mae wedi chwarae ar yr asgell i dimau Lerpwl o dan 10, 12, 14 a nawr 16, yn ogystal â’r garfan datblygu, ac mae wedi teithio i Ynysoedd Ffaro, Latfia, Sbaen a Hwngari i ymarfer â Chymru.

“O’n i wedi bod i’r camp ymarfer yng Nghaerdydd lle’r oedd 24 ohonan ni yn ceisio creu argraff cyn i’r hyfforddwyr torri lawr i 18 am y gystadleuaeth yn Bosnia nesa’,” meddai Cassia Pike wrth golwg360.

“O’n i’n falch fy mod i wedi cael fy lle yn y garfan, nai gymryd y cyfle, a gobeithio ga’ i ddechrau gemau, ond mi fydd yn grêt i gael y profiad.”

Cydbwysedd

Mae Cassia yn ddisgybl yn Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog ac mae’n her i gael y cydbwysedd o waith ysgol a mynd i ymarfer dair gwaith yr wythnos i Lerpwl, yn ogystal â chware un gêm ar y penwythnos.

Mae hi wedi bod yn ymrwymiad gan Cassia a’i rhieni David a Nia. Mae’n teithio’n syth o’r ysgol am Lerpwl ac yn ôl adre tua 11.30yh.

“Mae wedi bod yn werth bob munud,” meddai ei thad. “Mae’n fraint i gael gweld sut mae wedi datblygu dros y blynyddoedd, a’r gobaith ydi y caiff hi chwarae’n broffesiynol a chynrychioli Cymru yn y tîm llawn.

“Rydan ni wedi mynd drwy bum car efo’r holl deithio – ond dyna’r pethau rydach yn eu gwneud i’ch plant.” meddai wedyn.

Rownd elit dan-17

Fe fydd gemau rownd elit UEFA i dimau pel-droed merched o dan 17,  yn cael eu cynnal yn Bosnia ymhen pythefnos.

Mae gemau merched Cymru yn digwydd yn Sarajevo, lle cafodd tîm dynion Cymru noson fythgofiadwy wrth fynd drwodd i  rowndiau terfynol Ewro 2016 yn  Hydref 2015.

AC mae Cassia Pike yn gobeithio y caiff hi hefyd amser llwyddiannus yn y ddinas.

Mae Cymru yn grŵp 2 yn erbyn Norwy, Denmarc a Bosnia a’r gobaith ydi mynd drwodd i’r ffeinals sy’n cael eu cynnal yn y Weriniaeth Tsiec fis Mai.

I gyrraedd Bosnia roedd Cymru wedi gorffen yn ail uwchben Twrci a Latfia yn eu grŵp cymhwyso.

Gemau Cymru Rownd 2 Elit

Norwy  v Cymru  Mawrth 20 – Sarajevo

Denmarc v Cymru  Mawrth 22 – Sarajevo

Cymru v Bosnia – Mawrth 25 – Sarajevo