Ben Davies (Llun: David Davies/PA)
Mae cefnwr chwith Spurs a Chymru, Ben Davies yn mynnu ei fod e’n hapus i aros yn Spurs, er ei fod yn cael ei ystyried yn ail ddewis y tu ôl i Danny Rose.

Mae’r chwaraewr 23 oed o Gastell-nedd wedi dweud nad oedd e wedi ystyried gadael y clwb ym mis Ionawr, er ei fod e wedi chwarae mewn tair gêm yn unig yn 22 gêm gynta’r tymor.

Ond mae e wedi chwarae mewn chwe gêm erbyn hyn yn dilyn yr anaf i ben-glin Danny Rose, ac mae disgwyl iddo fod allan am fis eto.

‘Pwysig i’r clwb’

Dywedodd Ben Davies ei fod e’n “sicr” y byddai’n aros yn Spurs ar ôl i’r ffenest drosglwyddo gau ym mis Ionawr.

“Mae fy nghytundeb yma’n ddiogel ac mae angen dau chwaraewr ar bob clwb ym mhob safle.

“Wnes i ddim wir ystyried gadael. Dywedodd y rheolwr [Mauricio Pochettino] ’mod i’n bwysig i’r clwb a dyna’r cyfan welais i.

“Mae’n brofiad newydd ac a bod yn deg, mae Danny [Rose] wedi bod yn chwarae pêl-droed anhygoel, a rhaid i chi fod yn amyneddgar ac aros am eich cyfle.”

Ychwanegodd ei fod e a Danny Rose yn “gwthio’i gilydd” am le yn y tîm.

Ben Davies v Ashley Williams

Mae Ben Davies wedi’i gynnwys yn y tîm y prynhawn yma ar gyfer y gêm yn erbyn Everton a chapten Cymru, Ashley Williams, un o’i gyd-chwaraewyr yn Abertawe rai blynyddoedd yn ôl.

Wrth drafod y frwydr rhwng y ddau Gymro, dywedodd Ben Davies: “Dw i wedi chwarae gydag Ash ers blynyddoedd bellach ac mae e’n amddiffynnwr o’r radd flaenaf.

“Iddo fe, ei swydd gyntaf yw amddiffyn, nid chwarae tu allan i’r amddiffyn na dim byd felly, dim o’r ‘nonsens’ fel byddai e’n ei ddweud.”

Ond fe ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai’r Sais Harry Kane yn cael y gorau ar ei gydwladwr y prynhawn yma.