Fernando Llorente (Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe)
Mae Fernando Llorente yn achosi “hunllef” i amddiffynwyr ar y cae ymarfer, yn ôl amddiffynnwr tîm pêl-droed Abertawe, Martin Olsson.

Sgoriodd y Sbaenwr ddwy gôl brynhawn ddoe wrth i Abertawe guro Burnley 0 3-2 yn Stadiwm Liberty.

Mae e wedi sgorio 10 gôl yn yr Uwch Gynghrair ers diwedd mis Tachwedd – dim ond Harry Kane (Spurs) ac Alexis Sanchez (Arsenal) sydd wedi sgorio mwy o goliau yn y cyfnod hwnnw.

Dywedodd Martin Olsson, sgoriwr arall yr Elyrch brynhawn ddoe, fod ysfa Fernando Llorente i sgorio’n amlwg wrth i’r garfan ymarfer yn Fairwood hefyd.

“Mae Fernando union yr un fath wrth ymarfer, mae e’n ennill popeth yn yr awyr.

“Mae e’n hunllef wrth i ni chwarae fel ymosodwyr yn erbyn amddiffynwyr wrth ymarfer. Mae’r bois i gyd yn ceisio’i osgoi e.

“Hyd yn oed os ydych chi’n defnyddio’ch penelin i dynnu ei sylw, mae e’n dal i fod yn foi cryf iawn.”