Braintree 1–2 Wrecsam   
                                                                

Closiodd Wrecsam at safleoedd ail gyfle Cynghrair Genedlaethol Lloegr gyda buddugoliaeth dros Braintree oddi cartref ar Cressing Road brynhawn Sadwrn.

Er i’r Dreigiau fynd ar ei hôl hi yn y munud cyntaf fe frwydrodd tîm Dean Keates nôl i gipio’r tri phwynt.

Eiliadau’n unig a oedd ar y cloc pan roddodd Michael Cheek y tîm cartref ar y blaen.

Roedd yr ymwelwyr o ogledd Cymru’n gyfartal o fewn tri munud serch hynny wrth i Ntumba Massanka rwydo yn dilyn gwaith creu Izale McLeod.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond roedd Wrecsam ar y blaen toc wedi’r awr diolch i Oliver Shenton.

Roedd y gôl honno’n ddigon i sicrhau’r tri phwynt ac mae’r Dreigiau bellach yn ddegfed yn y tabl ac o fewn wyth pwynt i’r safleoedd ail gyfle.

.

Braintree

Tîm: Beasant, Clohessy, Okimo, Lee, Parry, Musonda, Hall-Johnson (Henshall 74’), Isaac (Maybanks 78’), Patterson (Twardek 57’), Midson, Cheek

Gôl: Cheek 1’

Cerdyn Melyn: Isaac 44’

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Jennings, Riley, Carrington, Barry, Tilt, Shenton (Evans 89’), Rutherford, Penn, Massanka (Smith 79’), McLeod (White 59’)

Goliau: Massanka 4’, Shenton 64’

Cardiau Melyn: Jennings 3’, McLeod 42’, Penn 52’

.

Torf: 698